Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 116)
116 Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu PDF 158 KB
Pwrpas: Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Funding Update, eitem 116 PDF 138 KB
- Enc. 2 for Investment and Funding Update, eitem 116 PDF 219 KB
- Enc. 3 for Investment and Funding Update, eitem 116 PDF 188 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu
Cofnodion:
Nododd Mrs Fielder bod amserlen wedi’i diwygio o fewn y Cynllun Busnes o ran creu polisi llif arian, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.
Fel rhan o’r trosglwyddiad, trosglwyddodd y Gronfa'r holl asedau i sicrhau fod dosbarthiadau’r asedau yn unol â’r strategaeth newydd. Roedd y Gronfa wedi trosglwyddo cronfa ecwiti byd-eang goddefol BlackRock i gronfa ecwiti byd-eang goddefol ESG BlackRock newydd fel y cytunwyd gan y Pwyllgor. Tan yr oedd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn barod i gymryd pob un o’r asedau marchnad newydd, roedd y Gronfa wedi trosglwyddo rhai o’r asedau i gronfa goddefol marchnad newydd BlackRock, gan ei fod yn llawer rhatach na rheolwr gweithredol. O ganlyniad i’r trosglwyddiad, roedd pob un o’r dosbarthiadau asedau gan eithrio dyraniadau marchnad preifat yn unol â’r strategaeth newydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Bateman am sefyllfa’r llif arian ar dudalen 462 a gofynnodd beth oedd wedi achosi’r gostyngiad o £35 miliwn i £20 miliwn. Cadarnhaodd Mrs Fielder fod y Gronfa, fel rhan o’r trosglwyddiad, wedi defnyddio ychydig o arian i gynorthwyo ag amseriad y trosglwyddiad. Pe bai’r Gronfa wedi parhau â’r adbryniadau cychwynnol gan reolwyr, byddent wedi bod mewn perygl o fod allan o’r farchnad. Felly, defnyddiodd y Gronfa oddeutu £9.3 miliwn ychwanegol o arian mewnol i reoli’r trosglwyddiad yn effeithiol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad ar gyfrifoldebau dirprwyedig.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r estyniad i amserlenni mewn perthynas â nifer y camau gweithredu o fewn y cynllun busnes.