Mater - cyfarfodydd

Governance Update

Cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 114)

114 Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 157 KB

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Latham ddiweddariad byr gan amlygu’r newidiadau bychain i’r gofrestr risg yn ogystal â’r newidiadau i amserlen y cynllun busnes mewn perthynas â Chod Modiwlaidd Sengl Rheoleiddiwr y Pensiwn.  Diolchodd Mr Fielder a Mr Latham i’r aelodau wnaeth fynychu hyfforddiant y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar faterion yn ymwneud â llywodraethu.

(b)  Bod y pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r amserlenni ar gyfer tasgau llywodraethu yn y cynllun busnes.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r diweddariadau i’r gofrestr risg.