Mater - cyfarfodydd

Council Tax Base for 2021/22

Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 47)

47 Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2021/22 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o broses gosod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2021/22 a’i fod yn caniatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor at y flwyddyn nesaf.

 

            Roedd y Sylfaen wedi’i chyfrifo ar eiddo cyfwerth â 65,026 Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai oedd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle’r oedd gostyngiadau statudol yn cael eu rhoi.

 

            Roedd gosod y Sylfaen dreth ar eiddo cyfwerth â 65,026 Band ‘D’ hefyd yn cynrychioli twf sylweddol yn y Sylfaen Dreth o 0.73% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd gyfwerth â chynnydd o 472 eiddo Band D.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod y Cyngor wedi ceisio dod ag eiddo gwag yn ôl i gael ei ddefnyddio heb lwyddiant, a gofynnodd a ellid cynyddu’r Premiwm Treth y Cyngor o 50% i annog dod â nhw i gael eu defnyddio unwaith eto.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai hynny gael ei ystyried yn ystod y flwyddyn ond nid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Roedd y Cynghorydd Butler yn cytuno â barn y Cynghorydd Bithell, a dywedodd fod eiddo gwag yn un o’r amcanion lles yn y drafft o Gynllun y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth o eiddo cyfwerth â 65,026 Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22;

 

 (b)      Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo sy’n dod o dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) ac i hynny fod yn berthnasol i ardal y Sir gyfan; a

 

 (c)       Pharhau i osod 50% o Bremiwm ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n dod o dan gynllun Premiwm Treth y Cyngor.