Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy (Streetscene and Transportation Portfolio)

Cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 8)

8 Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad oedd yn rhoi cefndir yngl?n â risgiau a nodwyd. Gyda’r Uwch Dîm Rheoli, roedden nhw wedi nodi 47 risg gwahanol ar draws Cyllid, Gweithlu, Asedau Eiddo, Llywodraethu/Cyfreithiol, Rheoliadau Allanol, TGCh a Systemau, Cyflenwi Gwasanaeth, Polisi Priffyrdd, Fflyd, Strategaeth Gwastraff a Pharcio a Gorfodi, ac roedd 2 o’r rhain wedi eu cau ond yn cael eu hadolygu’n wythnosol. Wrth symud i fisoedd y gaeaf roedd risgiau newydd yn dod i’r amlwg a byddent yn parhau i gael eu monitro. 

 

Rhoddodd fwy o wybodaeth yngl?n â’r meysydd penodol canlynol:

Cyllid

ST09 - Marchnad ar gyfer ailwerthu deunydd eildro yn hynod anwadal. Adroddodd fod newid mawr yn y prisiau maen nhw’n eu derbyn am blastig, papur a gwydr ayyb ac yn anffodus mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llithro gan osod pwysau sylweddol ar fusnesau ond yn creu problemau hefyd i staff sy'n ceisio dod o hyd i farchnadoedd parod ar gyfer y deunydd. 

 

 ST10a – Gwastraff cyffredinol y codi rhwng 10 - 20% yn rhanno oherwydd nifer y bobl sy’n gweithio o gartref, yn treulio mwy o amser yn y cartref a heb deithio ar wyliau gan arwain at gadw’r gwastraff yn yr ardal hon. Mae nifer y tunelli ar gynnydd sy’n achosi pwysau o ran ffi glwyd ychwanegol ond mwy o waith i staff hefyd wrth gasglu gwastraff o ochr y ffordd.

 

Gweithlu

ST12 – Gostyngiad yn nifer y gweithwyr a’r contractwyr rheng flaen i gyflawni gwasanaethau yn ddiogel oherwydd lefelau uwch o salwch.

 

ST17a – Cynnydd yn y perygl o ddioddef oherwydd iechyd a lles meddyliol, materion personol ac/neu deuluol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i'r Gwasanaethau Stryd am ddychwelyd i sefyllfa fwy arferol yn enwedig o ran torri gwair yn ei ardal ef. Rhoddodd wybod fod y Goruchwyliwr Dros Dro wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Cei Connah er mwyn cynnig yr ardaloedd oedd angen eu glanhau’n ddifrifol, yn debyg i’r un ddigwyddodd yn Shotton.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas wybod am Ymgyrch Ailgylchu yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei lansio, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol o’r enw ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’.Ychwanegodd y byddai llawer o gyhoeddusrwydd yngl?n â hyn er mwyn annog pobl i ailgylchu a chodi’r cyfraddau unwaith eto, fyddai hefyd yn atal gollwng sbwriel hefyd gobeithio.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn yngl?n â’r ail argymhelliad. Holodd beth fyddai’n digwydd i bopeth arall fyddai wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.    Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wybod fod aelod o’i dîm wedi bod yn nodi eitemau oedd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o’r cyn Bwyllgorau Trosolwg ac Archwilio'r Amgylchedd a Chymuned a Menter, o ran eitemau parhaus fyddai’n cael eu bwydo i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor. Byddai pwyslais ar eitemau adfer, ond byddai’r rhaglen gwaith i’r dyfodol hefyd yn cydnabod fod angen dod ag eitemau rheolaidd o flaen y Pwyllgor ac hefyd materion yn ymdrin â swyddogaethau rheolaethol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen meddwl am y risgiau  ...  view the full Cofnodion text for item 8