Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy

Cyfarfod: 25/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 7)

7 Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestru risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol

·         Amcanion adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau adferiad

·         Adferiad cymunedol

·         Cynllun a pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Uwch Reolwyr gyflwyniad manwl ar y gofrestr risg ar gyfer y portffolio gwasanaeth oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Risgiau Asedau a Thai

·         Dyrannu Risg

·         Tuedd Risg

·         Ariannol

·         Gweithlu

·         Eiddo ac Asedau

·         Llywodraethu a’r Gyfraith

·         Gwasanaethau Atal Digartrefedd

 

Fe awgrymodd yr Hwylusydd fod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli i gyfrannu at y rhaglen waith i’r dyfodol i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Wrth ymateb i gwestiwn am eiddo gwag fe gynghorodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod yna ystod eang o eiddo gwag ar draws y Sir, eiddo 1 a 2 lofft yn bennaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am grantiau cyfleusterau i’r anabl fe gynghorodd y Rheolwr Budd-daliadau fod gwaith wedi ail-ddechrau ar brosiectau canolig a mawr. Fe sicrhaodd y Pwyllgor fod yr achosion mwyaf brys wedi parhau yn ystod y sefyllfa o argyfwng ond fe amlinellodd pa mor betrusgar oedd rhai pobl o gael gweithwyr yn gweithio ar eu cartrefi felly roedden nhw’n cydweithio’n agos gyda’r bobl hyn. Hefyd darparodd ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi’i wneud â’r Tîm Caffael i sicrhau mwy o ymrwymiad gyda chontractwyr cyn dechrau ar y gwaith ar yr eiddo.      

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r argymhellion yn cynnwys y blaenoriaethau adferiad nesaf a nodwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â chytuno â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru. Cafodd y rhain eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y gyfres lawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adfer y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a

 

 (b)      Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei ail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt.