Mater - cyfarfodydd

Terms of Reference of the Committee

Cyfarfod: 25/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 6)

6 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg Cymuned ag Addysg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn yn cynnwys cael gwared ar eitemau adfywio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd ac Adfywio ac ychwanegu’r eitemau canlynol:

 

  • Ymgynghoriaeth Eiddo a Dylunio
  • Prisio ac Ystadau
  • Gwasanaethau Cyfleusterau
  • Asedau Cymunedol
  • Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol
  • NEWydd

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.