Mater - cyfarfodydd

Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination

Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 7)

7 Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio Gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus pdf icon PDF 229 KB

Pwrpas:        Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Llawn a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Banks wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar yr eitem hon, cafodd ei symud i'r lobi ar-lein yn ystod cyfnod y cyflwyniad, trafodaeth a phleidlais.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Cabinet angen ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Sir a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio (at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol).

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) bod y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd wedi’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019. Cafwyd ymgynghoriad rhwng 30 Medi a 11 Tachwedd 2019, a daeth 1281 sylwad i law gan 657 o ymatebwyr ar wahân. Yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd gan y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd statudol dan rheoliadau CDLl i wneud holl sylwadau a ddaeth i law i fod ar gael. Roedd hyn wedi cael ei wneud drwy eu rhoi ar y porth ymgynghoriad CDLl ac mewn tabl crynodeb ar wefan y Cyngor.

 

Yn y cyfarfod blaenorol o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 30 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd y Gr?p pob un o’r ymatebion a argymhellwyd i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd, ac argymhellwyd y dylai’r Cabinet a’r Cyngor Llawn ystyried y rhain fel rhan o’r broses o gytuno i gyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus. Wrth wneud hyn, roedd rhai Aelodau yn deall bod ymatebion i'r cynllun angen eu hystyried ar y cyfan er mwyn symud ymlaen, a byddai rhai Aelodau o'r Cyngor a fyddai gyda phroblem gyda rhannau o’r Cynllun oherwydd rhesymau penodol i bolisi neu ward.  Roedd yn bwysig bod gan yr holl Aelodau ddealltwriaeth bod y Cynllun angen ei symud ymlaen ar y cyfan, a bod Archwiliad Cyhoeddus yw’r lle y bydd y craffu annibynnol terfynol o gadernid y cynllun yn cael ei gyflawni.

 

Cafodd hyperddolen, gyda chrynodeb o sylwadau ei gynnwys yn adroddiad y Cabinet. 

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Bithell am ei gefnogaeth hirdymor o’r broses CDLl ac am gadeirio'r Gr?p Strategaeth Cynllunio, a diolchodd i holl Aelodau eraill o'r gr?p hwn hefyd. Roedd nifer o sesiynau briffio i Aelodau wedi eu cynnal yr wythnos flaenorol lle cyflwynwyd crynodeb o’r sefyllfa. Cafodd y sesiynau eu rhannu i ardaloedd daearyddol, a bu i gyfanswm o 41 Aelod fynychu. Nid oedd unrhyw dystiolaeth yn dweud na ddylem barhau ar y llwybr hwn. Roedd nifer o bobl a wnaeth y sylwadau wedi dweud yr hoffent wneud sylwadau yn yr Ymholiad a roedd hyn o fewn pwerau’r Arolygydd. Bydd yr Ymholiad yn cael ei gynnal ar ddechrau 2021. 

 

Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i geisio awdurdod dirprwyedig ar gyfer unrhyw newidiadau bychain  ...  view the full Cofnodion text for item 7