Mater - cyfarfodydd

Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 4)

Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 10)

10 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 4) pdf icon PDF 294 KB

Pwrpas:        Darparu'r wybodaeth ar Fis 4 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ers ei gosod ym mis Ionawr 2020 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2020), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.

 

            Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £6.829M yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:

 

·         Lleihad net o £12.287m yn y rhaglen (£0.837m yng Nghronfa’r Cyngor a £13.124m yn y Cyfrif Refeniw Tai);

·         Cyflwyniad i Arian a Ddygwyd Ymlaen o 2019/20 o £19.766m (Cronfa’r Cyngor £19.766M, y Cyfrif Refeniw Tai £0.000M)

·         Arbedion a nodwyd ym Mis 4 o (£0.650M Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £9.512M.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r arian dros ben terfynol o'r Rhaglen Gyfalaf 2019/20 – 2021/22 oedd £1.145M. Cymeradwywyd y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 ar 28 Ionawr 2020, gyda diffyg mewn cyllid o £2.264M. Roedd y arian dros ben a gafodd ei gario ymlaen wedi arwain at agor sefyllfa diffyg cyllid o £1.119M.

 

Roedd Derbyniadau Cyfalaf a ddaeth i law yn y chwarter cyntaf 2020/21, ynghyd ag arbedion a nodwyd wedi dod i gyfanswm o £0.948 miliwn. Gwnaethpwyd cais am ddyraniad ychwanegol o £0.217M tuag at y prosiect Campws Queensferry a oedd yn rhoi’r diffyg mewn cyllid cyfredol, am gyfnod o dair blynedd, yn £0.388M. Roedd hyn cyn unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu i unrhyw gyllid arall gael ei gynhyrchu.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr eu bod dal yn aros am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar amserlen y pecyn ysgogi economaidd. Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar y Rhaglen Gyfalaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas y byddai’n ymlid Llywodraeth Cymru o’r cyllid Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;

 

(b)      Cymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen wedi’u nodi yn yr adroddiad; ac

 

(c)       Bod y dyraniadau ychwanegol fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.