Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4)

Cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet (eitem 9)

9 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

            Roedd y sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

 

            Roedd y risgiau posibl a phwysau o ran costau yn amrywio rhwng £2.8miliwn a £5.4miliwn (gan eithrio’r effaith o’r dyfarniad cyflog). Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

·         Diffyg gweithredu o £0.983miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei fodloni gan gronfeydd wrth gefn)

·         Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.418 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.295 miliwn yn is na’r gyllideb; a

·         Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £2.468.

 

            Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn o’r sefyllfa ragamcanol gan y portffolio; amrywiaethau sylweddol; risgiau agored; cyllid argyfwng; cyflawniad o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

            Argymhellwyd trosglwyddiad cyllideb i fynd i’r afael â darparu gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, am y swm am £0.300 miliwn i’w drosglwyddo o fewn y gwasanaethau oedolion o’r cyllideb Ardaloedd, o fewn y gwasanaeth Pobl H?n, i’r gwasanaethau Adnoddau a Rheoledig (o fewn y Gwasanaeth Pobl H?n hefyd). Roedd y ddau bennawd cyllideb yn cynnwys darpariaeth o wasanaethau ar gyfer pobl h?n megis gofal preswyl a gofal cartref. Fodd bynnag, roedd un cyllideb ar gyfer y gofal a gomisiynwyd gan ddarparwyr gofal lle’r oedd y gyllideb arall ar gyfer darpariaeth gofal yn uniongyrchol gan y Cyngor. Dros amser roedd  darpariaeth mewnol o ofal wedi cynyddu mewn cymhlethdod lle’r oedd gofal a gomisiynwyd wedi lleihau.

 

            Yn ogystal argymhellwyd bod y swm o £0.134M yn cael ei ddyrannu gan y Gronfa Hapddigwyddiad Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer pwysau hysbys yn 2020/21. Bydd y cyllid yn dod â chynhwysedd ychwanegol i drefniadau cefnogaeth busnes a chydymffurfiaeth gyda gofynion diogelu o fewn y Gwasanaethau Plant.

 

            Cafwyd drafodaeth ar ffioedd maes parcio ac eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori lle mae’r Cyngor wedi gwneud penderfyniad i gael gwared ar newidiadau i feysydd parcio, a oedd yn argymhelliad mewn adroddiad i’w ystyried yn y cyfarfod hwn, ni fyddent yn ad-dalu costau o’r Ail Chwarter. Roedd y colled incwm net y maes parcio yn £0.550M. Trafododd yr Aelodau’r ffaith nad oedd y golled oherwydd bod codi ffioedd wedi dod i ben, ond roedd llai o bobl yn ymweld â chanol trefi ar hyn o bryd. Cytunwyd bod yr hawliau am yr Ail Chwarter a’r Drydydd Chwarter yn cael eu ymlid gyda Llywodraeth Cymru.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer arian at raid Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;

 

 (b)  ...  view the full Cofnodion text for item 9