Mater - cyfarfodydd

Review of Public Space Protection Orders

Cyfarfod: 14/07/2020 - Cabinet (eitem 187)

187 Adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ynghylch adnewyddu’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar yr adolygiad o Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPOs). Gall y Gorchmynion hyn bara am uchafswm o dair blynedd cyn bod angen adolygiad. Roedd angen adolygu Gorchmynion y Cyngor erbyn hyn, neu byddent yn dod i ben ar 19 Hydref 2020. I ymestyn PSPO mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddechrau ac ymarfer hysbysu yn unol â’r Ddeddf, fel pe bai’n gwneud gorchymyn newydd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), o dan ddarpariaethau’r Ddeddf fod Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i Reoli Alcohol yn newid yn awtomatig i PSPO. Byddai’r gorchymyn hwn yn rhoi grym i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau’r cyhoedd ildio alcohol pe credid fod aelod o’r cyhoedd yn achosi niwsans mewn lle cyhoeddus. Nid oedd yn waharddiad llwyr ar alcohol mewn ardaloedd cyhoeddus, ac nid oedd yn weithredol i fangre drwyddedig, ond yn annog yfed yn synhwyrol. Roedd angen adolygu’r Gorchymyn hwnnw hefyd.

 

            Ers gweithredu’r Gorchymyn Rheoli C?n, roedd dros 1,100 o gerddwyr c?n wedi cael sgwrs ac wedi cael gwybodaeth a chyngor ar waharddiadau’r Gorchymyn. Roedd cyfanswm o dri Hysbysiad Cosb Benodedig wedi cael eu rhoi am g?n yn baeddu a 45 am g?n yn mynd i mewn i ffiniau caeau chwarae wedi’u marcio.

 

            Y bwriad oedd cynnal yr ymgynghoriad drwy ddau arolwg ar-lein, un i bob Gorchymyn, yn gofyn am farn preswylwyr ac ymgynghoreion statudol ar y PSPOs i gael eu hymestyn ac a oedd gofynion y gorchymyn yn gymesur. Byddent ar wefan  Cyngor am gyfnod o bum wythnos drwy fis Awst 2020 ac wythnos gyntaf Medi 2020. Byddai’r Cyngor yn ystyried yr atebion i’r ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad ar y Gorchmynion terfynol.

 

            Byddai map rhyngweithiol yn cael ei roi ar-lein gyda phob categori tir wedi’i godio’n lliw i ddangos pa gyfyngiad oedd mewn grym ym mha leoliad, yn cynnwys tir perthnasol a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol ers i’r Gorchymyn gael ei wneud yn 2017, ynghyd â dogfen o gwestiynau cyffredin. O safbwynt ymgynghoriad y PSPO Rheoli C?n, cynigiwyd ysgrifennu at y canlynol gan amlinellu’r cynnig i ymestyn y PSPO a ble a sut roedden nhw’n gallu cymryd rhan:

 

  • Aelodau Etholedig
  • Penaethiaid Ysgol
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Ysgrifenyddion Clybiau Bowlio
  • Lesddeiliaid tir a effeithir, h.y. clybiau chwaraeon
  • Elusennau a mudiadau fel yr RSPC a’r Kennel Club
  • Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Unrhyw gynrychiolwyr cymunedol priodol eraill

 

Eglurodd y Cynghorydd Thomas fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn ddiweddar ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd lle y cynigiwyd argymhelliad ychwanegol i roi gerbron y Cabinet “fod sylwadau’n cael eu gwneud drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus i PSPOs gael eu hymestyn am hyd at bum mlynedd”. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) eiriad gwahanol sef, “Fod sylwadau’n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol a rhwydweithiau proffesiynol yn gofyn i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 gael ei newid i ymestyn y cyfnod lle mae  ...  view the full Cofnodion text for item 187