Mater - cyfarfodydd

Annual Review of Fees and Charges

Cyfarfod: 14/07/2020 - Cabinet (eitem 182)

182 Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Adrodd ar adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2020, sy’n cefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, a chyflwyno’r Polisi Cynhyrchu Incwm newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn gosod allan y rhesymeg dros godi tâl a’r galwad am adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau. Roedd canlyniad yr adolygiad ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu hefyd y gwaith hyd yma ar yr argymhellion, o ran cynhyrchu incwm a ffioedd a thaliadau, a gafodd eu cadarnhau gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, yn cynnwys:

 

  • Rhoi codiad chwyddiant at y ffioedd a’r taliadau cymwys fel rhan o adolygiad 2020 gan ddefnyddio naill a’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys costau Tai perchen-feddiannydd (CPIH), cymharu cyfradd y farchnad neu’r gyfradd leol/y Cyngor (fel rhan o’r gwaith i sicrhau adennill costau llawn erbyn 2022);
  • Y gwaith a wnaed i asesu a oedd y ffioedd a’r taliadau yn llwyddo i adennill cost lawn pan y’u caniatawyd i wneud hynny a datblygu templed i alluogi meysydd gwasanaeth i gyfrifo hyn; ac
  • Adolygiad  a diweddariad o’r Polisi Cynhyrchu Incwm i sicrhau fframwaith ar gyfer cynhyrchu incwm, yn cynnwys strwythur cyson i godi tâl ac adennill costau.

 

Eglurodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata fod gweithredu’r egwyddorion oedd ym Mholisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor, a’r rheiny y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, at adolygiad blynyddol ffioedd a thaliadau 2020, wedi sicrhau fod unrhyw godiadau yn cael eu rheoli’n briodol i atal newidiadau mawr mewn ffioedd a thaliadau o 1 Hydref 2020.

 

Roedd y gwaith i benderfynu a oedd adennill cost lawn yn cael ei gyflawni i bob gwasanaeth, lle caniateid iddynt wneud hynny, wedi digwydd. Datblygwyd templed adennill costau, a brofwyd fesul maes gwasanaeth, a’r canlyniad oedd templed adennill costau wedi’i gwblhau a’i brofi. Dosbarthwyd y templed i bob maes gwasanaeth fel rhan o adolygiad ffioedd a thaliadau 2020 iddynt ei ddefnyddio, er mwyn asesu a oedd y ffioedd a’r costau a osodwyd gan eu gwasanaeth wedi’u gosod ar lefel oedd yn galluogi adennill costau llawn.

 

Roedd rhai gwasanaethau yn gweithredu mewn marchnad fwy masnachol ac mae’n bosibl eu bod wedi dewis gosod ffioedd a thaliadau yn unol â chyfradd y farchnad. Roedd gwneud hynny’n atal effaith niweidiol ar y galw am wasanaeth a’r incwm cysylltiedig, ac roedd yn unol ag amcanion ac egwyddorion Polisi Cynhyrchu Incwm y Cyngor.

 

Roedd y Polisi Cynhyrchu Incwm a ddiweddarwyd yn rhoi mwy o fanylion am y broses adolygu’r ffioedd a thaliadau yn flynyddol ac yn cynnwys y meini prawf, fel y’u cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, ar gyfer adolygu’r ffioedd a’r taliadau presennol, a chyflwyno rhai newydd.

 

Croesawyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Banks, yn enwedig y manylion ar gonsesiynau yn yr atodiad.  

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod cynhyrchu incwm ychwanegol, yn cynnwys incwm o ffioedd a thaliadau, yn rhan o’r strategaeth o opsiynau i gwrdd â her y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

“Rwyf yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion.

 

Pe bai pwyllgor TaChAC wedi bod, byddwn wedi gofyn:

  1. O dan  ...  view the full Cofnodion text for item 182