Mater - cyfarfodydd
Consultation on Charitable Rates Relief for Schools and Hospitals
Cyfarfod: 12/05/2020 - Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol (eitem 14)
14 Ymgynghoriad ar Ryddhad Ardrethi Elusennol i Ysgolion ac Ysbytai PDF 109 KB
Pwrpas: Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar ryddhad ardrethi elusennol i ysgolion ac ysbytai yng Nghymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw adroddiad a oedd yn gofyn am farn o ran a oedd angen diwygio Rhyddhad Ardrethi Elusennol i rai ysgolion ac ysbytai i sicrhau bod y gefnogaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei darparu drwy’r cynlluniau rhyddhad ardrethi yn cael ei thargedu’n gywir. Roedd cyfnod yr ymgynghoriad wedi’i ymestyn i 29 Mai o ganlyniad i’r mesurau brys cenedlaethol a’r pwysau sylweddol ar fudd-ddeiliaid allweddol.
Roedd gan Sir y Fflint 13 o Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru neu Ysgolion Catholig Rhufeinig a oedd yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Elusennol o 80% sy’n gyfanswm o £185k o ryddhad ardrethi'r flwyddyn. Roedd hefyd tri safle addysg bellach yn y Sir a oedd hefyd yn gymwys am ryddhad ardrethi o £556K y flwyddyn.
Yng Nghymru, roedd 30 eiddo wedi’u categoreiddio fel ysbytai preifat, doedd dim un yn Sir y Fflint.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fe wnaeth y Cynghorydd Carver, y sylw canlynol:
‘Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cytuno’n llwyr â’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef “y dylid gohirio unrhyw ddiwygiad arfaethedig o Ryddhad Ardrethi Elusennol i ysgolion ac ysbytai oherwydd effeithiau economaidd y sefyllfa argyfwng hon, oherwydd efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu cynaliadwyedd y cynllun ardrethi cyfan ar ei ffurf bresennol’.
Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Gohirio unrhyw ddiwygiad arfaethedig o Ryddhad Ardrethi Elusennol i ysgolion ac ysbytai oherwydd effeithiau economaidd y sefyllfa argyfwng hon, oherwydd efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu cynaliadwyedd y cynllun ardrethi cyfan ar ei ffurf bresennol.