Mater - cyfarfodydd

Public Sector Internal Audit Standards

Cyfarfod: 09/09/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 77)

77 Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus pdf icon PDF 89 KB

Rhoi gwybod i’r pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn yr eitem hon, cipiodd y Prif Weithredwr ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Rheolwr Archwilio Mewnol am ei gwaith gwerthfawr ar y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.

 

Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd canlyniadau’r hunanasesiad mewnol ar gyfer 2019/20 a’r asesiad allanol a gyflawnwyd ar gyfer 2016/17 yn dynodi bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r safonau ymhob maes arwyddocaol ac yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol.  Roedd y camau gweithredu ar yr asesiad blaenorol wedi cael eu cwblhau, oni bai am ddau (wedi’u cwblhau’n rhannol) a dau (parhaus); roedd un ohonynt yn ofyniad yn y Safonau a’r gweddill wedi’u rhoi mewn lle fel camau gweithredu ychwanegol i wella gweithrediad y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis, cadarnhaol y Rheolwr Archwilio Mewnol bod y camau gweithredu ar y meysydd lle'r oedd diffyg cydymffurfio, fel rhan o’r asesiad allanol wedi cael eu cwblhau a’u gweithredu.

 

Gofynnodd Allan Rainford am eglurhad o’r broses ar gyfer arfarniadau a hyfforddiant o fewn y tîm Archwilio Mewnol. Darparodd y Rheolwr Archwilio Mewnol wybodaeth ar elfennau amrywiol o’r rhaglen hyfforddi, gan gynnwys cymwyseddau a thargedu meysydd ar gyfer gwella dysgu. Er nad oedd ymarfer meincnodi gyda chynghorau eraill yng Nghymru wedi bod yn bosibl eleni, byddai canlyniadau’r canfyddiadau yn y dyfodol yn cael eu cynnwys yn y diweddariad blynyddol i’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at yr awgrym yn y safonau i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio fwydo i arfarniad perfformiad y Rheolwr Archwilio Mewnol. Eglurodd y swyddogion bod y strwythur adrodd mewn grym wedi cyflawni cydymffurfiaeth rhannol. Ystyrir ei fod yn briodol ac yn caniatáu hyblygrwydd i alluogi’r Cadeirydd i roi adborth yn fwy rheolaidd ar swyddogaeth Archwilio Mewnol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Axworthy bod y Pwyllgor yn diolch yn ffurfiol i swyddogion a chydweithwyr Archwilio Cymru am eu gwaith neilltuol dros gyfnod yr argyfwng.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Johnson ac Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn diolch yn ffurfiol i swyddogion a chydweithwyr Archwilio Cymru am eu gwaith neilltuol dros gyfnod yr argyfwng.