Mater - cyfarfodydd

School Modernisation - The School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 - Lixwm School Re-designation

Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 160)

160 Moderneiddio Ysgolion – Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 – Ail-ddynodi Ysgol Licswm pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cabinet am yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad i rannu manylion yr ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm i Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol ac i geisio cefnogaeth i'r ail-ddynodiad fynd yn ei flaen. Cadarnhaodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiad yn nodi uchafbwyntiau cryn dipyn o waith a wnaed gyda chymunedau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r cynnig i ail-ddynodi Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol.