Mater - cyfarfodydd

Council Tax Setting 2020/21

Cyfarfod: 18/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 110)

Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21

Pwrpas:        I basio penderfyniad ffurfiol i osod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21, os yw’r Cyngor yn gallu cymeradwyo cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn y cyfarfod hwn, gan gynnwys lefel y dreth i’w godi (Eitem 7).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Weithredwr bod gofyn i’r Cyngor ystyried y datrysiadau ffurfiol er mwyn gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21, ar ôl cymeradwyo’r gyllideb a lefel Treth y Cyngor a argymhellir. 

 

Fe soniodd y Rheolwr Cefnogi Refeniw am y data sydd wedi’i ddarparu yn Nhabl 4 yr wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod sy’n manylu ar y symiau o Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 ar gyfer pob categori o anheddau a ddangosir.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd y dylai’r Cyngor gymeradwyo gosod Treth y Cyngor ar 4.75%, byddai cyfanswm elw Treth y Cyngor a gasglwyd o fis Ebrill 2020 yn £108.4miliwn. Fe eglurodd fod hyn yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir o £86.6miliwn; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru o £18.76miliwn; a phraesept gyfunol o ychydig dros £3miliwn ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.  

 

Yn unol â materion gweithdrefnol eraill, gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo i barhau â’r arfer fod swyddogion dynodedig yn arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon ar gyfer trethi sydd heb eu talu; i Awdurdodi’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i hysbysebu rhestr o ffioedd Treth y Cyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2020/21 yn y wasg leol; a chymeradwyo parhau â’r cynllun Premiwm Treth y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod cyfanswm o 69,503 o breswylwyr Sir y Fflint yn talu treth y cyngor.  Fe eglurodd y byddai taflen yn cael ei hanfon gyda phob datganiad Treth y Cyngor er mwyn gwneud preswylwyr yn ymwybodol fod ganddynt opsiwn i dalu ffi Treth y Cyngor mewn 12 rhandaliad yn hytrach na’r cynllun 10 mis statudol.    

 

Diolchodd y Cadeirydd a Phrif Weithredwr i’r Rheolwr Refeniw a’i dîm am eu gwaith. Fe dynnodd y Prif Weithredwr sylw at gyflawniad mai’r Cyngor sydd â’r gyfradd casglu Treth y Cyngor gorau yng Nghymru, fel y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gydnabod.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Mike Peers, cytunodd y Rheolwr Refeniw i ddosbarthu rhagor o fanylion i Aelodau am y cynnydd yn ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion canlynol a gafodd eu heilio gan y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

(1)       Bod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn cael ei osod yn seiliedig ar y rhestr o ffioedd sydd wedi’u rhestru yn Rhestr Ddatrysiadau Statudol a Ffioedd Treth y Cyngor (a gafodd eu dosbarthu yn y Cyngor llawn);

 

(2)       Bod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â darparu gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir, a phan nad yw eithriadau yn berthnasol, codi Premiwm Treth y Cyngor o 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag tymor hir;

 

(3)       Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu  ...  view the full Cofnodion text for item 110