Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 106)
106 Diweddariad Buddsoddi ac Ariannol PDF 99 KB
Darparudiweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Funding Update, eitem 106 PDF 79 KB
- Enc. 2 for Investment and Funding Update, eitem 106 PDF 112 KB
- Enc. 3 for Investment and Funding Update, eitem 106 PDF 157 KB
Cofnodion:
Rhoddodd Mrs Fielder ddiweddariad cryno ar fuddsoddi ac ariannu gan wneud y pwyntiau allweddol canlynol;
- Roedd hi’n deall bod blaenoriaethau’r cynllun busnes ar gyfer 2019/20 bron a’u cwblhau gyda’r mwyafrif o dasgau ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.
- Yn dilyn canlyniadau’r prisiad, mae nifer o’r risgiau buddsoddi ac ariannu ar y gofrestr risg wedi cael eu lleihau mewn gwerth cymharol ac mewn rhai achosion ar y lefelau targed.
Nodwyd yr adroddiad ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau pellach.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi’r adroddiad ar gyfer cyfrifoldebau dirprwyedig.