Mater - cyfarfodydd

Pension Administration/Communications Update

Cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 105)

105 Diweddariad Gweinyddu/Cyfathrebu Pensiwn pdf icon PDF 151 KB

Rhoidiweddariad ar faterion gweinyddu a chyfathrebu cysylltiedig â Chronfa Bensiwn Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                      Cyflwynodd Mrs Williams yr adroddiad. Dywedodd bod y tîm yn adrodd ar ofynion cyfreithiol ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) bob mis, bod gan bob Dangosydd Perfformiad Allweddol amserlen a bod rhaid i’r tîm lynu at yr amserlen yn gyfreithiol. Ar hyn o bryd, roedd y Gronfa yn darparu gofynion DPA ar gyfer 7 o brosesau’r Gronfa gan gynnwys ymddeoliadau a marwolaethau ac ati. Mae’r tîm yn monitro faint o amser mae’n cymryd i adrodd am wybodaeth aelod ac yna ei weithredu, fodd bynnag, weithiau yr aelod sy’n rheoli hyn h.y. mae’n cymryd wythnosau iddynt ymateb.Amlygodd Mrs Williams y pwysigrwydd o gasglu syniadau a safbwyntiau’r Pwyllgor ar gyfer DPA eraill ac mae hyn yn rhywbeth y gellir ei ddatblygu dros amser. 

                      Gofynnodd y cadeirydd am adnoddau ac os oedd angen staff ychwanegol.Dywedodd Mrs Williams petai pethau’n aros fel y maent, yna bydd y nifer o staff yn iawn, ond gan fod diwygiadau diweddar mewn rheoliadau a chyhoeddiadau achosion llys, mae hyn wedi arwain at waith ychwanegol ar gyfer y tîm. Mae hyn yn golygu bod angen monitro adnoddau a rheolaeth llif gwaith yn agos.

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau.