Mater - cyfarfodydd

Actuarial Valuation Update and Funding Strategy Statement.

Cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 101)

101 Diweddariad ar y Prisiad Actiwaraidd a'r Datganiad ar y Strategaeth Ariannu. pdf icon PDF 111 KB

Cyflwynodiweddariad ar y Prisiad Actiwaraidd a’r Datganiad ar y Strategaeth Ariannu i’r aelodau er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Nododd Mr Middleman bod y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft wedi cael ei drafod yn y cyfarfod ym mis Medi ac aeth yr ymgynghoriad gyda chyflogwyr rhagddo ym mis Tachwedd (gan gynnwys y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol a chyfarfodydd gyda chyflogwyr unigol) a gwahoddwyd sylwadau.Nid oes unrhyw newidiadau materol i’r drafft ond mae rhai mân newidiadau o ganlyniad i drafodaethau gyda chyflogwyr ac hefyd oherwydd diffyg cynnydd ar faterion cenedlaethol penodol a newidiadau strwythurol.

 

            Rhoddodd Mr Middleman y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sefyllfa’r ymgynghoriadau ar y gylchred prisiad 4 mlynedd a Bargen Deg a oedd i fod i gyflwyno statws gwarchodedig i aelodau a’r llwybr Cyflogwr Tybiedig.Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad prisiad 4 mlynedd ac nid yw’r ymgynghoriad Bargen Deg wedi symud ymlaen.Ni ragwelir y bydd y naill na’r llall yn symud ymlaen cyn y bydd angen arwyddo’r Datganiad Strategaeth Gyllido, felly mae’r geiriad cysylltiedig wedi cael ei dynnu o’r Datganiad Strategaeth Gyllido.Bydd y rhain yn cael eu cynnwys eto yn ôl yr angen a’i ddychwelyd i’r Pwyllgor unwaith y bydd diweddariad gan yr ymgynghoriadau.

 

             Gwnaeth Mr Middleman y pwyntiau allweddol canlynol;

-       Pan mae Mercer yn gosod rhagdybiaethau, yn arbennig o ran chwyddiant, mae Mercer yn edrych ar yr amcangyfrif gorau o RPI o elw’r farchnad ar Fondiau Llywodraeth. Yna mae Mercer yn amcangyfrifo chwyddiant CPI (y cynnydd a roddir ar ddyledion) trwy dynnu 1% y flwyddyn o’r RPI (h.y. bwlch RPI-CPI o 1% y flwyddyn).

-       Yn dilyn y newid arfaethedig i RPI i fod yn debycach i’r CPIH yng nghyhoeddiad mis Medi 2019, roedd chwyddiant RPI wedi newid.Er nad yw hyn yn effeithio ar y rhagdybiaethau ar y dyddiad prisio (31 Mawrth 2019), mae’n bwysig bod y Gronfa yn cydnabod y diweddariad hwn yn y Datganiad Strategaeth Gyllido.Pe na byddai cydnabyddiaeth i hyn, gallai arwain at ddefnyddio rhagdybiaeth ar gyfer CPI (yn seiliedig ar y bwlch RPI / CPI presennol) sy’n rhy isel ac felly’n tanbrisio atebolrwyddau mewn cyfrifon yn y dyfodol.  Nodwyd y byddai hyn yn cael ei drafod mewn mwy o fanylder yn yr eitem nesaf ond y cynnig yw lleihau’r bwlch CPI i RPI i 0.7% y flwyddyn i wneud iawn am hyn. Disgwylir i’r ymgynghoriad ar y newid fod yn rhan o’r Gyllideb ar 11 Mawrth 2020 a bydd y sefyllfa’n cael ei gadw dan adolygiad.

-       Roedd y lefel cyllido cyffredinol yn 91% ar y dyddiad prisio, gyda diffyg ariannol o £175 miliwn.

-       Roedd costau buddion parhaus o ganlyniad i’r prisiad yn 17.3% o dâl pensiynadwy.

-       Bydd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr yn cael ei weithredu ar y sail hon o 1 Ebrill 2020.

           

            Ar dudalen 25, gofynnodd y Cadeirydd pam fod y cyfnod adfer diffyg cyfartalog wedi cynyddu o 12 mlynedd yn y Datganiad Strategaeth Gyllido i 13 mlynedd.Nododd Mr Middleman mai cyfartaledd oedd hwn a bod gan gyflogwyr gwahanol (gan gynnwys y Cynghorau) gyfnodau gwahanol sy’n briodol i’w hamgylchiadau a bod y mwyafrif wedi lleihau 3 mlynedd ond roedd 2 Gyngor Unedol wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 101