Mater - cyfarfodydd

Investment Strategy Statement including Responsible Investment Policy

Cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 100)

100 Datganiad ar y Strategaeth Fuddsoddi, yn cynnwys y Polisi Buddsoddi Cyfrifol pdf icon PDF 100 KB

CyflwynoDatganiad ar y Strategaeth Fuddsoddi i’r aelodau (yn cynnwys y Polisi Buddsoddi Cyfrifol) er cymeradwyaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

          Aeth Mr Buckland a Mr Lathan drwy’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi diweddaraf gan nodi’r pwyntiau allweddol canlynol;

-       Gwnaed y rheoliadau oedd yn gofyn i gronfeydd gynhyrchu Datganiad Strategaeth Fuddsoddi yn 2016.

-       Roedd yn ofynnol i’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi cyntaf gael ei gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2017.

-       Mae’r rheoliadau hyn yn dal mewn lle; fodd bynnag disgwylir rheoliadau newydd yn ddiweddarach yn 2020. O ganlyniad, efallai bydd angen addasu’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi ymhellach.

-       Mae canllawiau statudol yn datgan nad all polisïau’r Gronfa ar fuddsoddiadau fynd yn erbyn polisi Llywodraeth.

-       Mae nifer o ofynion allweddol ar gyfer cynhwysiant mewn Datganiad Strategaeth Fuddsoddi ac amlygodd Mr Buckland y rhain, gan gynnwys arallgyfeirio ar fuddsoddiadau ac ystyriaeth o risgiau.

                      Amlygodd Mr Latham y newidiadau a wnaed i’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi.

            Y newid cyntaf oedd cynnwys amcan gyllido a buddsoddi newydd ar waelod tudalen 4 y Datganiad mewn perthynas â chyfuno asedau trwy’r PPC.Cytunodd y Pwyllgor â’r geiriad arfaethedig.

                      Gofynnodd y Cyng. Williams pe byddai achos y Goruchaf Lys yn ymwneud â’r Palestine Solidarity Campaign a Pholisi’r Llywodraeth yn rhwystro polisi Buddsoddi’n Gyfrifol y Gronfa. Dywedodd Mr Buckland, bod y ffordd mae’r polisi Buddsoddi’n Gyfrifol wedi cael ei ysgrifennu yn golygu nad oes unrhyw wrthdaro yn ei farn ef.Dywedodd mai’r mater mwyaf oedd fod rhai Cronfeydd wedi dadfuddsoddi oherwydd credoau moesegol penodol.Dywedodd Mr Buckland ein bod yn aros am ganlyniadau’r achos llys a bydd yn dychwelyd at y mater, a ddylai fod yn wybyddus dros y misoedd nesaf.

            Gofynnodd Mr Everett pam bod dau ddosbarth asedau, amaethyddiaeth a choed, wedi cael eu cynnwys o fewn y Datganiad, ac nid mewn categorïau megis ynni adnewyddadwy.Eglurodd Mr Harkin bod isadeiledd fel dosbarth ased yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiadau gan gynnwys ynni adnewyddadwy. Cytunodd y byddai’n ailystyried y categorïau.

            Holodd y Cadeirydd sut oedd meincnod y Gronfa’n cael ei benderfynu.Dywedodd Mr Buckland bod y meincnod yn gyfuniad o holl feincnodau o ddosbarthiadau asedau’r Gronfa.Er enghraifft, bydd gan y marchnadoedd preifat ac ecwiti feincnod eu hunain, ac wrth adio’r rhain gyda’i gilydd, dyma sy’n penderfynu meincnod cyffredinol y Gronfa.

            Ychwanegodd Mr Latham bod ystodau strategol wedi’u nodi ar dudalen 12 y Datganiad.Nododd bod ystod amodol yn cael ei ddefnyddio os oes risgiau mawr i’r Gronfa, ac mewn achosion o’r fath bydd swyddogion, gan ystyried cyngor gan Ymgynghorwyr Buddsoddi’r Gronfa, yn gwneud penderfyniadau sy’n symud y dyraniadau asedau tu hwnt i’r ystod strategol, i’r ystod amodol.Gofynnodd Mrs McWilliam os oedd yr ystod amodol wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen.Cadarnhaodd Mr Latham nad oedd yn gallu cofio sefyllfa eithafol, ond mae wedi cael ei ddefnyddio pan oedd y Gronfa yn mynd trwy drawsnewidiad.       

            Awgrymodd Mrs McWilliam y dylid addasu’r geiriad ar dudalen 21 y Datganiad.Roedd y geiriad yn datgan;

Yn y tymor hirach, yn amodol ar gwrdd â’r amcanion y cyfeirir atynt uchod, mae Cronfa Clwyd wedi ymrwymo i fuddsoddi ei holl asedau drwy’r PPC.

            Cynigodd Mrs McWilliam y dylai’r geiriad gyd-fynd yn agosach gyda’r amcan  ...  view the full Cofnodion text for item 100