Mater - cyfarfodydd

Council Fund Revenue Budget 2020/21 Stage Three Post-Settlement

Cyfarfod: 18/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 109)

109 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 Cam Tri - Gosod Cyllideb Gyfreithiol a Chytbwys pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i osod Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21. Cyfeiriodd at Ddatganiad y Gyllideb a roddwyd i Aelodau oedd wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd yn syth cyn cyfarfod y Cyngor, ac fe soniodd am argymhellion y Cabinet i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2020/21. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol: 

 

  • gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys
  • diweddariad am ragolwg ariannol ar gyfer 2020/21
  • Datrysiadau cyllideb 2020/21
  • cronfeydd wrth gefn (heb eu clustnodi/wedi eu clustnodi)
  • cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol
  • risgiau agored
  • Treth y Cyngor
  • barn broffesiynol a sylwadau i gloi
  • edrych ymlaen a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion am eu cyflwyniad a’r gwaith i osod cyllideb gytbwys. Diolchodd hefyd i Aelodau am ymgysylltu a chydweithio fel Cyngor unedig trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datrysiadau i’r ansicrwydd am gyllid ar gyfer Llywodraeth Leol a phwysleisiodd yr angen am sefydlogrwydd.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at y tywydd gwael diweddar ac fe achubodd ar y cyfle i ddiolch i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’r tîm gwasanaethau Strydwedd am eu gwaith paratoi a’u hymroddiad i ddelio ag unrhyw faterion brys.  Gan gyfeirio at osod Treth y Cyngor, fe soniodd am y 0.25% cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac fe soniodd am yr amrywiaeth o wasanaethau oedd yn cael eu darparu, dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau gwytnwch. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at yr arbedion roedd Cronfa Bensiynau Clwyd wedi’i gyflawni trwy ostwng cyfraniadau cyflogwr (Adolygiad Tair Blynedd) ar gyfer Sir y Fflint ac ailgyfrifo sefyllfa yn ystod y flwyddyn ar gyfraniadau pensiwn blynyddol cyflogwr, a diolchodd i bawb oedd yn rhan o hynny. 

 

Wrth symud argymhellion 1 i 8 y Cabinet i’r Cyngor fel y manylir yn adroddiad y Cabinet oedd yn atodiad i’r adroddiad, fe dynnodd y Cynghorydd Ian Roberts sylw at argymhelliad 8: “Mae’r Cabinet yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ymrwymo i gynllunio cyllideb tymor canolig o dair blynedd gyda setliadau llywodraeth leol yng Nghymru ar lefel isafswm o 4% ym mhob un o’r blynyddoedd hynny, a bod dyfarniadau tâl cenedlaethol a diwygiadau a diwygiadau pensiwn ac adbrisiad i’r cyllid yn llawn ar lefel genedlaethol yn y tarddiad”.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Cyngor yn ystyriol o’r effaith uniongyrchol roedd Treth y Cyngor yn ei gael ar bobl ac roedd yn falch mai’r Treth y Cyngor roedd y Cabinet yn ei argymell oedd 4.5%.   Er y byddai hyn yn cynyddu i 4.75% pan fyddai’r ardoll ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei ychwanegu, dywedodd y byddai dal i fod yn is nag ymrwymiad y Cyngor i gapio cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor i 5.0%. Dywedodd y Cynghorydd Roberts mai’r cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 109