Mater - cyfarfodydd

Committee Review

Cyfarfod: 27/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 120)

120 Adolygiad Pwyllgor pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ystyried yr argymhellion ar Adolygiad Pwyllgor y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar adolygu strwythur pwyllgorau gan gynnwys lleihau nifer y pwyllgorau trosolwg a chraffu a’u haelodaeth, lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio a chael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd. Diolchodd y Prif Swyddog i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd am ei waith ar hyn a manylodd ar y broses ymgynghori a arweiniodd at argymhellion y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer newid (bydd y newidiadau yn dod i rym ar ôl y Cyfarfod Blynyddol).

 

Wedi diolch i’r swyddogion a’r Arweinydd, gofynnodd y Cyng. Heesom am gadarnhad ynghylch a fyddai Aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd pwyllgorau fel arsyllwyr yn cael yr hawl i siarad (ond ddim pleidleisio).Dywedodd y Prif Weithredwr bod Cadeiryddion wastad wedi’u hannog i ganiatáu i Aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd fel arsyllwyr siarad ond y byddai Cadeiryddion r?an yn cael eu gwahodd yn ffurfiol i anrhydeddu’r arfer hwn.Bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm yn cynorthwyo i sicrhau bod pwyllgorau yn cadw at yr arfer hwn pan fo’n bosibl.

 

Fel Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, diolchodd y Cyng. Palmer i’r swyddogion am eu gwaith a chynnig bod yr argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

Wrth eilio’r cynnig, ymatebodd y Cyng. Roberts i gwestiwn gan y Cyng. Heesom a chadarnhaodd yr ymrwymiad a roddwyd i Arweinwyr Grwpiau y bydd nifer yr Aelodau Cabinet ar y Pwyllgor Cynllunio yn lleihau i dri yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Arweinwyr Grwpiau am eu cyfraniad i’r broses ymgynghori.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â grwpiau gwleidyddol llai, eglurodd y Prif Swyddog y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig sy’n ceisio dyrannu seddau pwyllgor yn decach ar draws y pleidiau. Yn dilyn sylwadau’r Cyng. Mackie, dywedodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw ffafriaeth o ran dyrannu seddau grwpiau lleiafrifol yn cael eu hystyried a’u bodloni pan fo’n bosibl.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trafodaeth yngl?n â’r mater hwn yn cael ei drefnu gydag Arweinwyr Grwpiau pan fyddant yn cwrdd ddiwedd mis Mawrth.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r canlynol a’u rhoi ar waith yn dilyn Cyfarfod Blynyddol 2020:

·         Lleihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o chwech i bump

·         Gweithredu’r strwythur Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu newydd, fel y nodir yn yr adroddiad

 

(b)       Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, lleihau nifer yr Aelodau ar y pwyllgorau canlynol:

·         Lleihau aelodaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o 15 i 12 aelod

·         Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio o 21 i 17 aelod

·         Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd o 21 i 16 aelod

 

(c)       Nodi’r cyfrifiad cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig (Atodiad B).

 

(d)       Diolch yn ffurfiol i’r holl Aelodau a swyddogion sydd wedi ymwneud â gwaith llwyddiannus y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadau.