Mater - cyfarfodydd
Minimum Revenue Provision - 2020/21 Policy
Cyfarfod: 18/02/2020 - Cabinet (eitem 142)
142 Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2020/21 PDF 131 KB
Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks adroddiad yr Isafswm Darpariaeth Refeniw – Polisi 2020/21 a oedd yn rhoi manylion o’r gofyniad ar awdurdodau lleol bob blwyddyn i roi adnoddau refeniw i un ochr fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.
Gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer argymell yr adroddiad i’r Cyngor Sir.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y canlynol yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor:
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:
· Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrif Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled.
(c) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf mewn telerau cyfrifeg) fel a ganlyn:
· Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.
· Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, ac ni ellir defnyddio’r rhain ddim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled. Bydd yr ad-daliad cyfalaf/derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad.