Mater - cyfarfodydd

Housing Rent Income

Cyfarfod: 18/02/2020 - Cabinet (eitem 149)

149 Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran dyledion rhent yn 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad Incwm Rhent Tai a oedd yn darparu manylion ar sefyllfa ddiweddaraf casglu rhent.

 

            Fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Cabinet, roedd gwaith sylweddol wedi cael eu gyflawni dros y chwe mis diwethaf i sefydlogi sefyllfa ôl-ddyledion rhent, gyda’r gwaith yn cynnwys:

 

·         Cynyddu adnoddau;

·         Cyflwyno ymyrraeth gynnar;

·         Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser; a

·         Buddsoddi mewn technoleg newydd

 

Roedd yr holl waith wedi dod ynghyd ac am y tro cyntaf ers 2016/17 roedd casgliadau rhent yn gwella ac ôl-ddyledion rhent yn lleihau. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, hyd at wythnos 42, yn £2.04M o’i gymharu â £2.18M ar yr un adeg yn 2018/19, gan ddangos lleihad o £143,000.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod cynnydd cyson yn cael ei wneud i leihau ôl-ddyledion rhent a bod  hynny’n cael ei gyflawni o ganlyniad uniongyrchol i:

 

·         Gynyddu adnoddau;

·         Cyflwyno canolbwynt ymyrraeth gynnar i gynorthwyo’r tenantiaid hynny mewn mwy o risg o golli eu cartrefi;

·         Mabwysiadu dull mwy cadarn am bwysigrwydd talu rhent ar amser; a

·         Buddsoddi mewn Meddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft.

 

            Roedd y gwasanaeth Refeniw yn parhau i gymryd camau cyfreithiol fel ateb olaf yn erbyn y tenantiaid hynny nad oedd yn ymgysylltu ac yn methu talu rhent ar amser. Gydag oddeutu 7,100 o denantiaid, dim ond 20 achos o droi allan oedd wedi digwydd hyd yn hyn yn 2019/20 am ôl-ddyledion rhent difrifol ac ar ôl cyflawni holl opsiynau adennill eraill gan y Cyngor, a dim ond ar ôl i’r system cyfreithiol fodloni bod popeth wedi cael ei wneud i gefnogi’r tenant.

 

            Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod effaith Credyd Cynhwysol yn amlwg ar y graff yn yr adroddiad ac er gwaethaf heriau parhaus i gynyddu’r nifer o denantiaid sy’n dod oddi ar Fudd-Dal Tai i’r system Credyd Cynhwysol, roedd y gwasanaeth tai wedi gweithio’n galed i herio effeithiau anochel y mae mwyafrif o landlordiaid cymdeithasol yn profi wrth godi ôl-ddyledion rhent.

 

            Croesawodd Aelodau’r adroddiad, yn arbennig yr ymyraethau cynnar i gynorthwyo tenantiaid.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod sefyllfa ariannol ddiweddaraf ôl-ddyledion rhent yn 2019/20, yn cael ei nodi.