Mater - cyfarfodydd

Sub-committee of the Standards Committee

Cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Safonau (eitem 68)

68 Is-bwyllgor y Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I ystyried sefydlu is-bwyllgor y Pwyllgor Safonau i fynd i'r afael â cheisiadau brys am oddefebau sy'n codi rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor a drefnwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried rhinweddau sefydlu is-bwyllgor i benderfynu ar geisiadau am oddefebau pan nad oes cyfarfod cyfleus arall o’r Pwyllgor llawn wedi’i drefnu.  Roedd hyn yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr a aildrefnwyd gyda’r cworwm lleiaf posib ar ôl ei ganslo i gychwyn, er mwyn ystyried un cais am oddefeb.

 

Wrth egluro’r darpariaethau angenrheidiol i sefydlu is-bwyllgor, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’r opsiwn hwn yn cynnig llai o hyblygrwydd o ran aelodaeth. Aeth yn ei flaen i ddweud bod y Pwyllgor yn cyfarfod bob mis a bod y trefniant ym mis Ionawr wedi gweithio’n dda.

 

Siaradodd yr Aelodau o blaid yr awgrym hwn, gan nodi eu bod yn dymuno parhau gyda’r trefniadau presennol heb fod angen is-bwyllgor. Cynigiwyd ac eiliwyd hyn gan Julia Hughes a’r Cynghorydd Woolley.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, sicrhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r Aelodau yn cael eu hatgoffa o’r angen i gyflwyno ceisiadau am oddefebau cyn gynted ag y bo modd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno nad oes angen is-bwyllgor.