Mater - cyfarfodydd
Complaint made to the Public Services Ombudsman for Wales
Cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 70)
70 Ymchwiliad yr Ombwdsman (Adroddiad Cyhoeddus) PDF 83 KB
Pwrpas: Rhannu canlyniad ymchwiliad yn ymwneud â methiant Cyngor Sir y Fflint i weithredu yn amserol a phriodol i ymdrin â lle golchi ceir a oedd yn achosi Niwsans Statudol o ran s?n a chwistrellu d?r/cemegau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - PSOW report, eitem 70 PDF 145 KB
- Enc. 2 - Current status on PSOW recommendations, eitem 70 PDF 65 KB
- Enc. 3 - Enforcement Audit scope, eitem 70 PDF 103 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad oedd yn cynnwys manylion cwyn a wnaed yn erbyn Cyngor Sir y Fflint a gafodd ei ymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 2019. Cadarnhaodd fod y 10 argymhelliad wedi cael eu derbyn.
Fe ychwanegodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes fod y tîm wedi ystyried y casgliadau’n ofalus iawn a’u bod yn ceisio symud ymlaen yn adeiladol gan ystyried y gwersi sydd wedi’u dysgu a fydd yn cael eu defnyddio fel model ar gyfer achosion eraill yn y dyfodol. Fe ffurfiwyd gr?p rhwng adrannau er mwyn mynd i’r afael â phob achos wrth symud ymlaen a fyddai’n cael eu cofnodi’n ffurfiol yn ychwanegol i gynllun gweithredu manwl. Fe ychwanegodd fod y tîm wedi’i gydleoli yn Ewlo.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at y polisi gorfodi cynllunio a’r ôl-groniad o achosion. Roedd dros 300 o achosion oedd angen eu hymchwilio. Roedd hi’n cydnabod tra bod y tîm gorfodi yn dîm bach iawn, roedd hi’n obeithiol y byddai’r adroddiad Archwilio Mewnol yn foddhaol.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio dywedodd y Cynghorydd Wisinger nad oedd yn hapus gyda’r hyn oedd wedi digwydd, ond cafodd gwersi eu dysgu ac roedd o’n hyderus y byddai’r gwasanaeth yn parhau i wella. Fe groesawodd y cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r argymhellion.
Mynegodd y Cynghorydd Cindy Hinds bryderon yngl?n ag adeiladau oedd wedi eu hesgeuluso. Gan ymateb dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) fod yna bot bychan o arian i’w roi/benthyg i berchnogion adeiladau mewn cyflwr gwael i’w helpu i’w defnyddio eto.
Roedd y Cynghorydd Sean Bibby o’r farn fod yna welliant mawr wedi bod yn y modd y mae achosion gorfodi yn cael eu trin. Roedd yn teimlo fod y broses cwynion newydd yn gweithio’n dda ac roedd yn cydnabod llwyth achosion prysur y swyddogion.
Rhoddodd y Rheolwr Datblygu drosolwg o strwythur y Tîm Gorfodi a dywedodd y byddai pob swyddog yn gyfrifol am tua 80-90 achos, ond byddai unrhyw un o’r swyddogion yn gallu rhoi diweddariad i aelodau ar unrhyw achos. Yn ychwanegol, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio a Datblygu) i ddosbarthu rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost y Tîm Gorfodi i Aelodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Dave Wisinger yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi camau gweithredu a gymerwyd gan yr Adran Cynllunio, Yr Amgylchedd ac Economi fel yr amlinellir ym mharagraffau 54 a 55 yr adroddiad fel y nodir yn Atodiad 2.