Mater - cyfarfodydd

Pensions – Financial relationship of Flintshire County Council as an employer and the Clwyd Pension Fund

Cyfarfod: 13/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 80)

80 Pensiynau – perthynas ariannol Cyngor Sir y Fflint fel cyflogwr a Chronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 103 KB

I egluro 1) y berthynas, 2) mathau o gyfraniadau a 3) canlyniad y prisiad actiwaraidd tair blynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i egluro’r berthynas rhwng Cronfa Bensiynau Clwyd a Chyngor Sir y Fflint fel cyflogwr yn y Gronfa, ynghyd â’r mathau o gyfraniadau ariannol a wnaed.  Rhoddodd yr adroddiad fanylion ynghylch canlyniad y prisiad actiwaraidd teirblwydd a effeithiodd yn gadarnhaol ar gyllideb 2020/21 y Cyngor.

 

Rhoddodd Rheolwr Cronfa Bensiynau Clwyd, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Actiwari’r Gronfa o Mercer (Paul Middleman), gyflwyniad ar y cyd yn trafod y canlynol:

 

·         Sut mae’r Gronfa Bensiynau’n gweithio

·         Trosolwg o Adolygiad Actiwaraidd 2019

·         Mathau o gyfraniadau

·         Effaith Prisiad Actiwaraidd 2019

 

Yn ystod y cyflwyniad, dangosodd siart lif sut roedd y Gronfa’n gweithio gyda chyfnodau o reolaeth wedi’u dangos gyda statws gwyrdd, oren neu goch. Drwy gydbwyso risg yn erbyn elw’n ofalus, roedd enillion buddsoddi wedi cynyddu’n sylweddol uwchlaw’r lefel darged a oedd  wedi cyfrannu’n sylweddol at sefyllfa o ddiffyg y Gronfa.

 

Disgrifiodd Actiwari’r Gronfa’r broses adolygu actiwaraidd fel craffu ar lefel y buddsoddiadau er mwyn talu buddion, yn gytbwys â risg. Ar wahân i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, un o’r cydrannau allweddol oedd sicrhau ansawdd y data a allai effeithio ar atebolrwydd. Fe wnaeth canlyniadau allweddol o’r prisiad ddangos bod perfformiad gwell o’r Gronfa wedi arwain at lefelau cyllido cyfartalog cynyddol, o 76% yn 2016 i 91% yn 2019, gyda’r diffyg ad-dalu wedi mwy na haneru o £437 miliwn yn 2016 i £177 miliwn yn 2019.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod canlyniad y prisiad wedi arwain at ostyngiad net o 4% mewn cyfraniadau cyflogwyr, a oedd yn cyfateb i arbediad a oedd yn gyfanswm o £2.646 miliwn i gyllideb y Cyngor yn 2020/21.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod rhaglenni Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd ar gael ar wefan y Cyngor. Cefnogwyd ei awgrym y dylai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gael adroddiadau cynnydd ddwywaith y flwyddyn ar Gronfa Bensiynau Clwyd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y canlyniadau cadarnhaol o gyllideb y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Weithredwr am faint o risg a oddefir a’r amcan i gyflawni asedau sy’n cyfateb i 100% o atebolrwydd o fewn cyfnod amser 13 mlynedd. Mae Actiwari’r Gronfa’n disgrifio strwythur llywodraethu’r Gronfa fel ‘arloesol’ i addasu i newidiadau a chyfeiriodd at y monitro parhaus y tu allan i gylch y prisiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, cafodd rolau a chyfrifoldebau’r Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol eu hegluro o ran y Gronfa.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cynigiodd y Cynghorydd Jones y dylid diolch i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, y Prif Weithredwr a’r swyddogion am eu gwaith. Cefnogodd yr Aelodau awgrym y Prif Weithredwr y dylai’r cyflwyniad ar y gweill i’r Cyngor nodi boddhad y Pwyllgor gyda graddfa’r sicrwydd dros ffigurau’r Gronfa Bensiynau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones yr argymhellion diwygiedig, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn fodlon gyda graddfa’r sicrwydd a roddwyd iddynt gan swyddogion yn ystod y cyflwyniad;

 

(c)       Diolch i dîm y swyddogion am eu gwaith i wella sefyllfa Cronfa Bensiynau Clwyd yn fawr; a  ...  view the full Cofnodion text for item 80