Mater - cyfarfodydd
Conduct Issues arising from the Election
Cyfarfod: 03/02/2020 - Pwyllgor Safonau (eitem 60)
60 Materion Ymddygiad yn dilyn yr Etholiad PDF 79 KB
Ystyried unrhyw g?yn foesegol yn dilyn yr etholiad diweddar
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried unrhyw gwynion moesegol yn dilyn yr etholiad seneddol diweddar. Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd nad oedd y Cyngor (fel corff corfforaethol) a Chynghorwyr Sir yn ymwneud yn uniongyrchol â'r etholiad. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, gweithredodd y Cyngor ei brotocol cyn-etholiad i leihau'r risg o broblemau neu anawsterau. Atgoffodd y protcol hwn swyddogion o'r angen i sicrhau bod y Cyngor yn parhau'n ddiduedd yn ystod etholiad a thrwy gydol cyfnod yr ymgyrch. Roedd y Cyngor wedi ystyried yn ofalus pa faterion y byddai'n eu trafod yn y Pwyllgor neu yng nghyfarfodydd y Cyngor.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr ymgyrch etholiadol wedi cael ei rhedeg yn dda gan bob ymgeisydd a pharti heb unrhyw achosion o ymddygiad gwael gan Gynghorwyr Sir nac unrhyw un arall.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom y Swyddog Monitro a'i dîm am eu gwaith yn ystod yr etholiad seneddol a dywedodd ei fod wedi'i reoli'n dda.
Soniodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr angen i gynnal safonau uchel drwy gydol yr etholiadau sydd i ddod, gan gyfeirio at etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel enghraifft.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a'i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.