Mater - cyfarfodydd

Council Fund Revenue Budget 2020/21 Stage Two Post-Settlement

Cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 92)

92 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 - Cam Dau Ôl-setliad pdf icon PDF 173 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 ar ôl derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 a oedd yn nodi’r strategaeth ar gyfer cyrraedd cyllideb gyfreithiol a chytbwys.Roedd y Setliad Dros Dro allan i ymgynghoriad cyhoeddus a byddai’n cael ei derfynu ar 25 Chwefror cyn cymeradwyaeth Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus.

 

            Mae'r adroddiad yn trafod:

·         Y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf ar gyfer 2020/21;

·         Crynodeb o waith cam un y gyllideb;

·         Asesiad o’r Setliad Dros Dro a’r effeithiau a'r goblygiadau i’r Cyngor;

·         Y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddewisiadau lleol ar gam dau i gyfrannu tuag at gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21;

·         Y risgiau agored a oedd angen eu hystyried wrth osod y gyllideb; a

·         Y camau i gau’r gyllideb a'r gwaith parhaus ar gyfer y tymor canolig.

 

Cynghorodd yr adroddiad bod graddfa uchel o hyder y byddai cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn cael ei argymell i'r Cyngor yn y cyfarfod ar 18 Chwefror.Trefnwyd cyfarfod arbennig o Arweinwyr Gr?p i’w gynnal cyn Cyfarfod y Cyngor.

 

Ers y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr, effaith y newidiadau diweddar oedd cynyddu bwlch y gyllideb i fodloni gofyniad y gwariant ar gyfer 2020/21 o £0.181 miliwn i £16.355 miliwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn ar y Setliad Dros Dro, fel y manylwyd yn yr adroddiad.Esboniodd bod yr AEF dros dro (Grant Cefnogi Refeniw a chyfran o Gronfa Cyfraddau Cenedlaethol) ar gyfer 2020/21 yn £199.386 miliwn, wrth gymharu â'r ffigwr diwygiedig 2019/20 o £192.212 miliwn a oedd yn cynrychioli cynnydd o 3.7%. Cynnydd Cymru gyfan ar gyfartaledd oedd 4.3%. Mae’r dyraniad dros dro yn cynrychioli cynnydd ariannol o £10.406 miliwn dros ddyraniad 2019/20 o £188.980 miliwn.

 

Roedd tri throsglwyddiad i’r Setliad:

 

·         Grant Pensiwn Athrawon (£1.978 miliwn);

·         Gofal Nyrsio (£0.081 miliwn); a

·         Cyflog Athrawon (£0.608 miliwn).

 

Nid oes cyllid ychwanegol wedi’i gadarnhau ar y cam hwn i gefnogi cyllid ‘gwaelodol’.Mae cyllid gwaelodol yn lefel sicr o nawdd i gynghorau a ddaeth o dan y newid yng nghyfartaledd Cymru gyfan yn y Setliad blynyddol.Roedd lefel waelodol yn nodwedd o'r Setliad am sawl blwyddyn.Oherwydd yr amrywiadau yn y cynnydd blynyddol o gyngor i gyngor, galwyd am lefel waelodol gan nifer o gynghorau.Os caiff ei gymeradwyo, byddai’n cael ei noddi gan Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r swm a oedd wedi ei fuddsoddi yn y Setliad ar gyfer 2020/21 hyd yma.Fe wnaeth gr?p o Arweinwyr Gogledd Cymru’r achos i osod lefel waelodol ar 4%.Os yw’n cael ei gymeradwyo, byddai hynny’n gwella safle Sir y Fflint o 0.3%.Fe gefnogodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y galw am lefel waelodol hefyd.Roedd disgwyl penderfyniad ac ni ellir tybio ar y cam hwn, cyn i'r gyllideb gael ei therfynu a'i chymeradwyo gan LlC.

 

Roedd manylion grantiau penodol i’w dyfarnu wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai’r rhan fwyaf o grantiau ar yr un lefel â 2019/20, neu’n cael eu cynyddu ar gyfer chwyddiant. Byddai sawl cynnydd sylweddol i grantiau penodol o fewn Addysg a Gofal Cymdeithasol.Roedd y dyraniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 92