Mater - cyfarfodydd
Standards Committee Forum for North and Mid Wales
Cyfarfod: 03/02/2020 - Pwyllgor Safonau (eitem 59)
59 Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru PDF 49 KB
I ymateb i'r e-bost sydd ynghlwm.
Cofnodion:
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at e-bost a gafodd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Cyngor Sir Powys, ac eglurodd mai diben y neges oedd gofyn y canlynol :
(i) bod y Pwyllgor Safonau yn ymgynghori ar eitemau posibl ar gyfer cyfarfod nesaf Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru ac yn rhoi adborth ar unrhyw awgrymiadau i'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Powys; a
(ii) bod y Pwyllgor Safonau yn nodi pa fis ac amser fyddai orau ganddo ar gyfer y cyfarfod nesaf (Mawrth neu Ebrill 2020)
Cynigiodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro, yn cyflwyno eitemau posibl ar gyfer cyfarfod nesaf Fforwm y Pwyllgor Safonau. Cafodd hyn ei eilio a'i gytuno'n briodol gan y Pwyllgor.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Ebrill a'i ddechrau am 10.00 a.m. neu'n hwyrach.