Mater - cyfarfodydd

Impact of Roadworks by Utility Companies

Cyfarfod: 14/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 59)

59 Effaith Cwmnïau Gwasanaethau ar Briffordd Gyhoeddus Gwaith Ffordd pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o ofynion statudol y Cyngor i reoli ac archwilio’r Rhwydwaith Priffyrdd yn ystod gwaith ffordd sy’n cael ei gyflawni gan Gwmnïau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydliadau eraill.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i roi trosolwg o ofynion statudol y Cyngor i reoli ac arolygu’r Rhwydwaith Priffyrdd, yn ystod gwaith ffyrdd a wneir gan Gyfleustodau Cyhoeddus a sefydliadau eraill.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybod fod y Cyngor yn hwyluso cyfarfodydd cydlynu chwarterol, gyda’r holl gwmnïau cyfleustodau a weithredodd yn y Sir. Pwrpas y cyfarfodydd oedd archwilio cyfleoedd i bob hyrwyddwr gwaith rannu cynlluniau tymor hir ar gyfer uwchraddiadau asedau a phrosiectau cynnal a chadw mawr, a hyrwyddo cyfleoedd i agor ffosydd, rhannu safleoedd ac archebu gofod ar ffyrdd yn strategol yn y tymor hir. Pob tro roedd cwmni cyfleustodau’n gwneud gwaith stryd ar y briffordd, roedd eu gwaith adfer dilynol yn cael ei sicrhau am gyfnod o 2 flynedd. Pe bai diffygion yn cael eu nodi yn ystod y 2 flynedd, roedd y cwmni’n gyfrifol am unrhyw waith adferol, yn dilyn y cyfnod hwn, byddai’r baich yn mynd ar y Cyngor. O dan adran 72 o’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, cafodd yr Awdurdod Priffyrdd rym i gynnal gwaith ymchwilio i weld a oedd cwmni cyfleustodau wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd arno mewn perthynas ag adfer y stryd ai peidio.  I sicrhau nad yw baich y costau adferol yn disgyn ar y Cyngor, mae Sir y Fflint yn arolygu canran llawer uwch nag sy’n ofynnol. Yn ogystal â’r archwiliad gweledol, yn Ebrill 2019, cyflwynodd y Cyngor raglen samplu craidd ar waith adfer a oedd wedi’i cwblhau.

 

Rhoddodd y Cyngor fwletin gwaith ffyrdd i bob rhanddeiliad bob wythnos, a oedd yn cynnwys manylion yr holl waith a drefnwyd ar gyfer yr wythnos ganlynol. Defnyddiodd y Cyngor y platfform mapio ‘Un Rhwydwaith’ a oedd yn rhoi manylion cyfoes ynghylch gwaith ffyrdd ar y rhwydwaith.

 

Canmolwyd y Prif Swyddog a’i dîm gan y Cadeirydd, am y gwaith a wnaed gan y Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd, mewn perthynas â gwaith cyfleustodau a wneir ar y Rhwydwaith Priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cydnabod y fframwaith statudol a’r dyletswyddau ar y Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd, mewn perthynas â gwaith cyfleustodau a wnaed ar y Rhwydwaith Priffyrdd.