Mater - cyfarfodydd

School Admission Arrangements 2021/22

Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 161)

161 Trefniadau Derbyniadau Ysgol 2021/22 pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ynghylch trefniadau derbyn Medi 2021 ac i argymell eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ddarparu manylion am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2021. Yn ystod y broses ymgynghori, nid oedd unrhyw ysgol wedi gofyn am adolygiad o'u niferoedd derbyn ar gyfer 2021/22. Roedd y trefniadau derbyn cyfredol a nodwyd yn yr adroddiad yn dangos bod mwyafrif dewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2021/22.