Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Cyfarfod: 19/12/2019 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 3)

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu euogfarn o’r gorffennol.  Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) gan yr ymgeisydd, dangoswyd tair euogfarn o 1999 a 2004, gydag wyth o droseddau ar wahân. Dangoswyd manylion llawn o droseddau’r ymgeisydd yn Atodiad B o’r adroddiad.   

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi cael cais i roi eglurhad ysgrifenedig iddynt o’i heuogfarnau, a’i methiant i ddatgelu bob un ohonynt pan ofynnwyd iddi wneud hynny ar y ffurflen. Roedd yr esboniad wedi’i atodi i’r adroddiad.   Oherwydd natur yr euogfarnau, yn enwedig mewn perthynas â'r achosion o ymosod cyffredin ac achosion o ymosod ar Swyddog Heddlu, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i heuogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Gofynnodd iddi roi manylion o’i hamgylchiadau personol, a'i hanes teuluol a chyflogaeth.  Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr honiad a wnaeth yr ymgeisydd yn erbyn unigolion eraill yn 2004, a gofynnodd iddi roi disgrifiad llawn o’i gweithredoedd ar y pryd, a'r rhesymau pam ei bod wedi gwneud yr honiad. Gofynnodd iddi hefyd egluro pam nad oedd wedi rhoi gwybod am bryder mor ddifrifol i’r Heddlu neu awdurdod arall er mwyn ei ymchwilio.  Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn difaru ei hymddygiad yn fawr a chyfeiriodd at ei hesboniad ysgrifenedig a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd ei bod yn difaru peidio â rhoi gwybod am yr honiad ar y pryd ac wedi gweithredu ar wybodaeth a roddwyd iddi gan drydydd parti yr oedd yn ymddiried ynddynt, ac wedi penderfynu "cymryd y mater i'w dwylo ei hun" yn lle.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd egluro ei sefyllfa gyfredol o ran ei theulu, trefniadau domestig a dyheadau cyflogaeth.  Dywedodd yr ymgeisydd fod ganddi fywyd teuluol sefydlog a gyda chyfrifoldebau fel prif ofalwr. Roedd hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn cynllun chwarae a gwaith elusennol yn ei hamser rhydd. Roedd yn dymuno ceisio cyflogaeth fel gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat i ategu at incwm yr aelwyd a’i galluogi i weithio oriau hyblyg o amgylch anghenion ei theulu. Ailadrodd ei bod yn difaru ei gweithredoedd pan oedd yn ifanc yn fawr, ac eglurodd fod hyn o ganlyniad i'w “magwraeth gythryblus”.  

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Panel ofyn mwy o gwestiynau. Ceisiodd y Panel fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n ag amgylchiadau a oedd wedi achosi ei heuogfarnau a’r ddwy drosedd o ymosod ar Swyddog Heddlu. Holodd y Panel yr ymgeisydd hefyd am ei chefndir a’i methiant i roi gwybodaeth am yr honiad yn erbyn unigolion eraill i’r awdurdodau addas.

 

Cwestiynwyd yr ymgeisydd yn fanwl  ...  view the full Cofnodion text for item 3