Mater - cyfarfodydd

Capital Programme 2020/21 – 2022/23

Cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 93)

93 Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 er mwyn ei chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 a oedd yn trafod buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian.

 

            Mae asedau’n cynnwys adeiladau megis ysgolion a chartrefi gofal, isadeiledd megis priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor megis gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat. Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

            Mae gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig o du Llywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwyddau’r Cyngor.Fodd bynnag, mae ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg; roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

            Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor i dri adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;

2.    Asedau wedi eu Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith seilwaith angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a

3.    Buddsoddiad – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau i gyflwyno’r arbedion effeithlonrwydd yr amlinellwyd yn y cynllun busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

Darparodd y Prif Swyddog fanylion o bob tabl o fewn yr adroddiad a oedd yn cael eu cefnogi gan esboniadau ar bob un.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Healey, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y gwaith ar Ysgol Uwchradd Castell Alun ar gyfer estyniad tri llawr, ac nid dau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts argymhellion yr adroddiad gan gyfeirio at y cyfleoedd cyffrous yr amlinellwyd yn y Rhaglen Gyfalaf.Dywedodd bod hyn yn dangos bod y Cyngor yn bod yn uchelgeisiol ac yn dangos beth oedd amcanion y Cyngor.Gwnaeth sylw yn benodol at brosiect canolfan ddydd oedolion Hwb Cyfle, a oedd wedi agor yn ddiweddar yn Queensferry, buddsoddiad yng Nghartref Preswyl Marleyfield ym Mwcle, a’r cynigion ar gyfer sawl ysgol ar draws y sir.

 

Eiliodd y Cynghorydd Banks argymhellion yr adroddiad, ac roedd yn eu croesawu, cynlluniau llai yn benodol megis rhoi wyneb newydd ar gae bob tywydd Ysgol Uwchradd Elfed, a chynllun Menter Bwyd Sir y Fflint.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn croesawu’r adroddiad hefyd, sy'n nodi cynlluniau ar draws y sir.Fe wnaeth sylw ar adnoddau cyfalaf cyfyngedig y Cyngor, ac roedd yn teimlo bod angen tynnu sylw LlC at hyn.O ran gwaith adeiladu ysgolion, gofynnodd a oedd y gyllideb £1.5 miliwn ar gyfer toiledau mewn ysgolion yn rhan o'r rhaglen 15 mlynedd oherwydd bod yr adroddiad yn nodi £100 mil y flwyddyn.O ran gwelliannau i Iard Safonol y Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff, roedd yn gobeithio y gellir arbed arian ar y cynllun hwn, gan y penderfynwyd nad oedd angen  ...  view the full Cofnodion text for item 93