Mater - cyfarfodydd

Social Value

Cyfarfod: 21/01/2020 - Cabinet (eitem 130)

130 Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Cabinet ar y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno uchelgeisiau gwerth cymdeithasol y Cyngor a thrafod y polisi drafft ar gyfer gwerth cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Gwerth Cymdeithasol a oedd yn ceisio Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft a fyddai’n creu fframwaith galluogi i gryfhau’r dull i gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy wariant caffael y Cyngor.

 

            Roedd gan y Cyngor ymrwymiad strategol i ddarparu gwerth cymdeithasol gwell drwy’r gwaith yr oedd yn ei wneud, a oedd yn golygu cael buddion gwell i gymunedau Sir y Fflint o ganlyniad i’w wariant a darpariaeth gwasanaeth.

 

            Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent gynhyrchu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a sut y gellid mesur hynny. Roedd yr amcanion hirdymor wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, ochr yn ochr â manylion cyfleoedd mawr lle gellid ychwanegu gwerth cymdeithasol sylweddol yn y rhaglen, sef:

·         Caffael yn y dyfodol o adeiladu cartrefi Cyngor;

·         Ailddatblygu Theatr Clwyd;

·         Rhaglen ysgolion yr 21ain Ganrif.

·         Ymestyniad Marleyfield House; a

·         Buddsoddiad gan Aura yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r prif meysydd o ddarpariaeth gwerth cymdeithasol yn y 12 mis nesaf yn cynnwys:

 

·         Cefnogi rhaglen tlodi bwyd Sir y Fflint;

·         Lleihau tlodi tanwydd;

·         Cefnogaeth i leihau defnydd ynni a gwastraff;

·         Gwella bioamrywiaeth;

·         Cefnogi Cyfamod Y Lluoedd Arfog;

·         Hyrwyddo cael cyfle cyfartal;

·         Darparu cyfleoedd prentisiaeth a phrofiad gwaith;

·         Cynyddu’r defnydd o gwmnïau lleol yn y gadwyn gyflenwi;

·         Lleihau digartrefedd;

·         Teithio llesol a chludiant cymunedol;

·         Cynhwysiant digidol a chysylltiad;

·         Cefnogi mentrau sy’n gyfeillgar i Ddementia; a

·         Cefnogi rhaglen "WeMindTheGap”.

 

Byddai’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda chyflenwyr a chontractwyr i sicrhau bod buddion pendant yn cael eu darparu tuag at y themâu hynny.

 

Rhoddwyd manylion dwy astudiaeth achos, datblygiad y Ganolfan Gofal Dydd Oedolion newydd yn Shotton a darpariaeth gwelliannau arbed ynni domestig ar gyfer aelwydydd sydd yn dlawd ar danwydd yn yr adroddiad.

 

Croesawodd Bithell yr adroddiad, yn arbennig y meysydd ar gyfer darpariaeth yn y 12 mis nesaf, a gwelwyd cysylltiadau â blaenoriaethau’r Cyngor, megis yr ymateb i’r her o newid hinsawdd a chyflawniadau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y trefniadau caffael rhanbarthol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I nodi'r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma i ddarparu gwerth cymdeithasol yn Sir y Fflint, a bod y camau arfaethedig nesaf yn cael eu cadarnhau; a

 

 (b)      Cadarnhau’r Polisi Caffael Gwerth Cymdeithasol drafft.