Mater - cyfarfodydd

North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2019/2048

Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 116)

116 Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Fwrdd NEW Homes pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Nodi a gwneud sylwadau ar y cynnydd a wnaed ar ddarparu Cynllun Busnes NEW Homes 2019/2048.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad ar Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048 oedd yn cynnwys elfennau allweddol o Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer y Tai Rhent Fforddiadwy yn ystod y tair blynedd nesaf, o 207 uned. Byddai hyn yn cynyddu cyfanswm yr eiddo a reolir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i 309.

 

                        Roedd ymrwymiad ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i gael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer unrhyw Gynllun Busnes sy’n darparu amcanion strategol y cwmni.

 

                        Darparwyd manylion am gynnydd cyffredinol da y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), gydag Aelodau’n croesawu’r amrywiaeth o ran daliadaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r cynnydd a wnaed o ran darparu Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.