Mater - cyfarfodydd
Final Business Case for Flint Landfill and Crumps Yard Solar PV Schemes
Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 125)
Achos Busnes Terfynol ar gyfer datblygiadau Solar PV yn safle Tirlenwi Sir y Fflint a Iard Crumps
Pwrpas: Rhoi’r achosion busnes terfynol i’r Aelodau ar gyfer datblygiadau ynni Solar PV yn safle Tirlenwi y Fflint a Iard Crumps yn dilyn caniatâd cynllunio ac ymarfer tendro i bennu’r costau cyfalaf. Yr Aelodau i adolygu’r achos busnes terfynol a chymeradwyo’r prosiectau os yn berthnasol er mwyn i’r gwaith fynd yn ei flaen.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Restricted enclosure 4
- Restricted enclosure 5
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer Cynlluniau Solar PV yn Safle Tirlenwi Sir y Fflint ac Iard Crumps oedd yn nodi aliniad strategol y prosiect yn ogystal â manylu ynghylch manteision ariannol ac anariananol y cynllun.
Hefyd rhoddwyd diweddariad ar ganlyniad caffael contractwr adeiladu a’r strategaeth arfaethedig ar gyfer gwerthu a defnyddio’r trydan a gynhyrchir.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer Cynlluniau Solar PV yn Safle Tirlenwi Sir y Fflint ac Iard Crumps yn cael ei gymeradwyo;
(b) Cymeradwyo penodi contractwr adeiladu; a
(c) Bod y defnydd o gyfalaf heb ei wario o Brosiect Brookfield a Solar PV Safonol yn cael ei gymeradwy i’w ddefnyddio ar Brosiect Safle Tirlenwi Sir y Fflint ac Iard Crumps.