Mater - cyfarfodydd

Town Centre Regeneration Update

Cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 47)

47 Y Diweddaraf ar Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 187 KB

Pwrpas:        Rhoi’r diweddaraf i aelodau ar y dulliau i adfywio canol trefi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) yr adroddiad a roddodd ddiweddariad ar y gwaith a wnaed ers mis Chwefror 2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig cynnydd yn y raddfa weithredu i hwyluso'r newid i ddefnyddiau tir mwy cynaliadwy yng nghanol trefi.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio fod canol trefi yn genedlaethol yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol oherwydd ymddygiad newidiol gan siopwyr a'r diwydiant manwerthu. Roedd y Cyngor bob amser wedi cefnogi canol trefi gyda'r Cyngor, yn y gorffennol, yn gallu tynnu cyllid cyfalaf i lawr yn rheolaidd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ac i eiddo gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac Asiantaeth Datblygu Cymru.  Crynhowyd rhestr o raglenni a phrosiectau a gefnogwyd ac a gyflwynwyd trwy'r pecynnau cyllido yn yr adroddiad.

 

                        Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio sylw'r Aelodau at y dull mwy uchelgeisiol a gymerir gan y Cyngor i gynorthwyo cynghorau tref, yng nghyd-destun y dull strategol y cytunwyd arno gan y Cabinet ym mis Mai 2019, fel y manylwyd yn yr adroddiad.      

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ron Davies ynghylch yr angen am adolygiad o oleuadau traffig a lôn fysiau yn Shotton, cytunodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad i roi gwybodaeth i'r Cynghorydd Davies yn dilyn y cyfarfod ar y cynigion i wella'r gyffordd a goleuadau traffig yn Shotton fel rhan o osod gwelliannau cyffyrdd ar hyd Shotton a Queensferry.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gynnydd wedi’i wneud o ran datblygu’r tir lle roedd swyddfeydd y Cyngor yn arfer bod yng Nghei Connah a safle Somerfield. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y bu sgyrsiau gweithredol gyda'r Cyngor ar y defnydd o’r safle yn y dyfodol ac er nad oedd llyw clir ar hyn o bryd, y gobaith oedd gweld uned siop yno.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Ted Palmer sylwadau ar gau adeiladau mawr ar stryd fawr Treffynnon, ers yr astudiaeth gwirio iechyd a gynhaliwyd yn 2008, fel banciau, nad oeddent yn addas ar gyfer adeiladau manwerthu a gofynnodd a ellid addasu'r adeiladau hyn i ddarparu tai ond cadw ychydig o le at ddibenion manwerthu. Gwnaeth y Cynghorydd Dave Wisinger sylwadau hefyd ar nifer yr unedau manwerthu gwag, ar gyrion canol trefi, a oedd yn aros yn wag am gyfnod hir a’I fod yn teimlo mai'r defnydd gorau ohonynt fyddai eu trawsnewid yn dai, a fyddai'n cynorthwyo gyda chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio, yn dilyn yr astudiaeth gwirio iechyd flaenorol, y byddai canol trefi yn cael eu hailystyried a'u hadolygu yn unol â hynny. Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a oedd yn anelu at wneud canol trefi yn lleoedd cynaliadwy i fyw ynddynt, gan ystyried cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylwadau ar y Polisi Canol Trefi a oedd, yn ei farn ef, wedi bod o fudd i rai ardaloedd o'r Sir ond nid pob un. Dywedodd fod angen i'r Aelodau gofio am Fwrdd Uchelgais Economaidd  ...  view the full Cofnodion text for item 47