Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account (HRA) Capital Programme 2020/21

Cyfarfod: 06/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 20)

20 Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno rhaglen gyfalaf ddrafft Y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 er cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2020/21 drafft i’w gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid yn trafod y canlynol:

 

Ffocws ar Gynllun Busnes Cyfalaf 30 Mlynedd

Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Cyflawni’r SATC

Cydymffurfio

Rhaglen Gyfalaf Drafft 2020/21

Rhaglen Adeiladu Tai'r Cyngor

Maes Gwern, Yr Wyddgrug

St Andrews, Garden City

Rhaglen Gyfalaf y CRT 2020/21

Rhaglen Gyfalaf y CRT 2020/21

Ar ôl 2020

Blaenoriaethau Cyfalaf CRT y Dyfodol

Datgarboneiddio

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod y ffigyrau rhagamcanol yn y Rhaglen Gyfalaf drafft yn seiliedig ar adnoddau posib sydd ar gael tra ein bod yn disgwyl am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar y polisi rhent newydd.   Ymysg y rhagdybiaethau gyda’r Rhaglen ar ôl SATC oedd y byddai’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r datgarboneiddio o stoc dai presennol a oedd yn flaenoriaeth yn y dyfodol gan LlC.

 

Ar SATC dywedodd y Prif Swyddog fod sgorio uchel cyson ar holiaduron boddhad tenantiaid yn gyflawniad allweddol i’r Cyngor.  Ar flaenoriaethau’r dyfodol, byddai angen rhoi ystyriaeth fanwl i’r dull o adnewyddu stoc bresennol i leihau’r nifer o lefydd gwag.   Byddai adroddiad ar hyn yn cael ei drefnu ar gyfer y dyfodol.

 

Yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton ar lefydd parcio ar stadau tai fe ddywedodd y Prif Swyddog er bod rhywfaint o ddarpariaeth wedi’i drefnu o fewn yr elfen Gwaith Amgylcheddol o’r SATC, roedd achos ehangach yn sgil effaith anghenion parcio'r sector breifat a chynnydd yn nifer y ceir i bob cartref.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Ron Davies am yr adolygiad ar safleoedd garej fe ddywedodd y Prif Swyddog mai’r nod oedd adnewyddu'r rheiny a ystyrir yn ymarferol, fodd bynnag roedd yn amlwg bod llawer yn anaddas i geir modern ac yn aml iawn yn cael eu defnyddio i storio pethau.  Byddai safleoedd garej na fyddai’n cael eu defnyddio gan denantiaid yn cael eu dymchwel i wneud y mwyaf o ddarpariaeth parcio leol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Hughes o blaid darpariaeth parcio yn y byngalos yn ei ward a oedd wedi’u creu ar hen safleoedd garejys.

 

Dyma’r Cynghorydd Hutchinson yn llongyfarch swyddogion ar yr adroddiad a’r adborth positif gan denantiaid.  Roedd ei sylwadau am bwysigrwydd y ddarpariaeth parcio mewn llety amnodd yn cael ei gydnabod gan y Prif Swyddog a ddywedodd ei fod yn rhan o asesiad ehangach o barcio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Palmer at adnewyddu stoc dai presennol ac awgrymodd fod y tai oedd yn anodd ei gosod yn gallu cael eu rhannu yn llety un ystafell wely mawr eu hangen.  Dywedwyd wrtho mai dyma opsiwn ymysg nifer o ddewisiadau eraill sy’n cael eu harchwilio i gwrdd â’r galw am lety un ystafell wely fel canlyniad uniongyrchol o’r Dreth Ystafell Wely.

 

Croesawodd y Cynghorydd Attridge fuddsoddiad y Cyngor yn ei stoc dai a gofynnodd am yr ymrwymiad gyda pherchnogion tai preifat mewn eiddo yn cyffwrdd â’i gilydd i denantiaid y Cyngor er mwyn deall os oes angen gwneud gwelliannau ar  ...  view the full Cofnodion text for item 20