Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual report 2018/19
Cyfarfod: 27/11/2019 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 19)
19 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19 PDF 75 KB
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.Roedd Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2018/19 wedi’i atodi i’r adroddiad.
Cafodd y cais i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19 sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.