Mater - cyfarfodydd

Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) Casebook Issue 21 (April 2019 – June 2019) and Issue 22 (July 2019 – September 2019)

Cyfarfod: 04/11/2019 - Pwyllgor Safonau (eitem 41)

41 Llawlyfr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) Rhifyn 21 (Ebrill 2019 - Mehefin 2019) a Rhifyn 22 (Gorffennaf 2019 - Medi 2019) pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor am gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor am gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod dan sylw, ymchwiliodd Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i 17 o gwynion, a chanfuwyd nad oedd gan wyth ohonynt dystiolaeth o dor-rheolau, arweiniodd pump at ganfyddiadau nad oedd angen gweithredu arnynt, arweiniodd tair at atgyfeiriadau i'r Pwyllgorau Safonau perthnasol ac arweiniodd un at atgyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru.

 

Cyfeiriodd Julia Hughes at ymchwiliad yn ymwneud ag aelod o Gyngor Tref Prestatyn ac eglurodd nad oedd wedi datgan cysylltiad gan nad oedd wedi cymryd rhan yn yr achos hwnnw.  Cynigiodd y dylid dosbarthu gwybodaeth am Lyfr Achos Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gynghorau Tref a Chymuned i rannu arferion dysgu, yn enwedig ar ymchwiliadau yn ymwneud â'r broses Datgan Cysylltiad.  Cytunwyd ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y dylid nodi canfyddiadau’r cwynion hynny yr ymchwiliwyd iddynt gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod mis Ebrill - Mehefin 2019 a mis Gorffennaf - Medi 2019, fel y crynhoir yn rhifyn 21 a 22 o’r Llyfr Achos; a

 

 (b)      Bod y Swyddog Monitro yn rhoi dolen i wefan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gynghorau Tref a Chymuned at ddibenion gwybodaeth.