Mater - cyfarfodydd
Supporting Families to Access the Free Childcare Offer
Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 80)
80 Cefnogi Teuluoedd i gael Mynediad i’r Cynnig Gofal Plant PDF 212 KB
Pwrpas: Darparu manylion ynghylch sut y gellir cefnogi mwy o deuluoedd i gael y cynnig gofal plant am ddim ynghyd a chynigion am fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r gwaith.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar Gefnogi Teuluoedd i gael Mynediad i’r Cynnig Gofal Plant am Ddim a oedd yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynnig Gofal Plant wedi’i Ariannu ar gyfer Plant 3-4 Mlwydd Oed a’r gwaith a wnaed i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r Cynnig.
Esboniodd Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd mai nod y Cynnig oedd cefnogi teuluoedd drwy gynnig gofal hyblyg, fforddiadwy ac o safon. Roedd hefyd yn cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau pwysau ar incwm i deuluoedd, gan helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwaith a lleihau risg teulu o dlodi. Roedd hefyd o gymorth i gynnal ac i ailfodelu’r sector gofal plant.
Roedd y Cynnig Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus yn Sir y Fflint ac roedd nifer y plant a oedd wedi manteisio ar y Cynnig ers mis Medi 2017 wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.
Roedd gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i rieni a darparwyr gofal plant drwy weithio gyda’r sector gofal plant a phartneriaid.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad a chydnabod y gwaith a oedd yn cael ei wneud i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant am Ddim.