Mater - cyfarfodydd

Financial Procedure Rules

Cyfarfod: 29/01/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 55)

55 Rheolau Gweithdrefnau Ariannol pdf icon PDF 81 KB

Darparu Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru i’r Pwyllgor Archwilio i’w hargymell i’r Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Rheolau Gweithdrefn Ariannol Diwygiedig i’w hardystio a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad ar gyfer eu hargymell i’r Cyngor Sir.  Ers y diweddariad diwethaf yn 2018, gwnaed mân newidiadau i adlewyrchu’r dulliau darparu gwasanaeth a gweithdrefnau diwygiedig yn dilyn ymgynghoriad â rheolwyr gwasanaeth a Prif Swyddogion perthnasol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Johnson, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gryfhau’r geiriad yn y frawddeg gyntaf yn adran 4.3 a oedd ar hyn o bryd yn dweud bod y gofyniad am swyddogaeth Archwilio Mewnol yn cael ei ‘awgrymu’ yn y ddeddfwriaeth.

 

Wrth groesawu’r oruchwyliaeth gynyddol gan y tîm Prif Swyddogion, ategodd Sally Ellis yr angen i sicrhau cydymffurfiad ar draws y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cyfrifoldebau yn glir ac yn cael eu hategu trwy gyfarfodydd adrannol a sesiynau corfforaethol, yn ogystal â thargedu meysydd risg uchel yn benodol, neu os oedd newidiadau mewn personél.  Roedd cydymffurfiad â’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn cael ei fonitro gan y prif gyfrifwyr ym mhob portffolio ac nid oedd unrhyw batrymau sylweddol o ran torri rheolau.

 

Yn adran 4.1(e) ar yr addefiad o atebolrwydd sy’n codi o hawliad yswiriant, fe wnaeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gydnabod pryderon Sally a chytunodd i adolygu’r geiriad er mwyn annog gweithwyr i chwilio am gyngor yn y sefyllfaoedd hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau Allan Rainford, darparwyd eglurder ar rôl y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fel rhan o’r tîm Prif Swyddogion. Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cynghorydd Mullin a siaradodd am y cyngor gwerthfawr a ddarperir i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Rheolau Gweithdrefn Ariannol wedi’i diweddaru yn cael eu hardystio a’u cymeradwyo i’r Cyngor.