Mater - cyfarfodydd

North East Wales (NEW) Homes Board

Cyfarfod: 22/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 26)

26 Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048 pdf icon PDF 362 KB

Pwrpas:        I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglen Tai Gynllun Busnes Tai Gogledd Ddwyrain Cymru, oedd yn nodi elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o eiddo rhent fforddiadwy i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf i 207 o unedau.

 

            Roedd y prif elfennau a amlygwyd i’r Pwyllgor, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad, yn ymwneud ag:-

 

  • Unedau Rhodd;
  • Partneriaethau Strategol gyda Datblygwyr Lleol a Chymdeithasau Tai; a
  • Defnyddio tir sy’n eiddo i Gyngor Sir y Fflint  

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am ddiweddariad ar y rhaglen adeiladu tai ar hen safle Depo Canton.   Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglen Dai eu bod yn aros am yr adroddiad System Draenio Cynaliadwy (SuDS) er mwyn penderfynu faint o eiddo fyddai’r Cyngor yn gallu eu hadeiladu ar y safle.    Roedd y Cyngor wedi clustnodi 50 eiddo ar gyfer y safle i ddechrau a gobeithio y byddai gwaith yn dechrau ar y safle ar ddechrau’r flwyddyn nesaf. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yna gyfle i’r Cyngor fod yn berchen ar y fflatiau newydd a ddatblygwyd yn adeilad y Swan, Cei Connah.    Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglen Tai i edrych i mewn i hyn ar ôl y cyfarfod.  

 

            Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn canmol y ffordd yr oedd y gwasanaeth yn cael ei reoli.    Gofynnodd pam bod y Cynllun Busnes tan 2048 a pha un a oedd y cynnydd mewn ardrethi busnes gan y Bwrdd Benthyciadau Cyhoeddus wedi effeithio ar y Cynllun Busnes.  Hefyd gofynnodd am sicrwydd y byddai eiddo’r Cyngor yn parhau’n eiddo i’r Cyngor.    Eglurodd y Rheolwr Cyllid, Gwasanaethau Cymunedol fod y Cynllun Busnes ar waith tan 2048 o ganlyniad i ddull ad-dalu maith y cynllun. Ar y cynnydd mewn cyfraddau llog, roedd pob cynllun newydd yn cael ei brofi i sicrhau lled y gwall os digwydd i gyfraddau llog godi heb achosi unrhyw broblemau i’r cynlluniau.   Roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn sicrhau’r Pwyllgor y byddai holl eiddo’r Cyngor yn parhau yn eiddo i’r Cyngor.    

 

            Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies am ymweliad safle a drefnwyd yn ddiweddar i’r Pwyllgor i Garden City a llongyfarchodd Wates, y contractwyr am y gwaith a wnaed.        

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Shotton. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed drwy ddarparu’r Cynllun Busnes Cartrefi Newydd 2019/2048.