Mater - cyfarfodydd
Private Sector Home Improvement Loans
Cyfarfod: 06/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 22)
22 Benthyciadau Gwella Tai y Sector Breifat PDF 118 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y rhaglen a’r nwyddau benthyciadau yn dilyn ail-lansio.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad ar y rhaglen Benthyciad Gwella Tai oedd yn darparu dull cost effeithiol o wella safon bywyd a lles cartrefi Sir y Fflint. Darparodd ragolwg o’r meini prawf ar gyfer y tri math o fenthyciadau yn y rhaglen oedd wedi’u hariannu yn bennaf gan Lywodraeth Cymru (LlC). Byddai ail-lansio’r rhaglen yn cyd-fynd ag ailstrwythuro’r tîm.
Meddai’r Cynghorydd Bithell fod yr ail-lansio yn helpu i annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn gallu cael effaith bositif ar y rhestr aros ar gyfer tai.
Wrth ymateb i’r sylwadau, fe gytunodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i ddilyn i fyny ar sylwadau’r Cynghorydd Shotton yngl?n ag adeilad wedi’i drosi yng Nghei Connah. Cynghorodd y Cynghorydd Cox i gyfeirio ei bryderon am eiddo gwag hirdymor i’r tîm Iechyd yr Amgylchedd.
Cynigodd y Cynghorydd Palmer i gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed mewn darparu benthyciadau gwella tai yn y sector breifat.