Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report

Cyfarfod: 13/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 81)

81 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 pdf icon PDF 134 KB

Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr grynodeb o gynnydd ar berfformiad yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer Chwarter 3 2019/20 (Hydref-Rhagfyr 2019). At ei gilydd, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gyda 89% o weithgareddau wedi’u hasesu fel gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunir. Roedd 81% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed. Roedd y risgiau mawr (coch) yn ymwneud â her ariannol yn bennaf ac nid rheolaeth ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod fformat diwygiedig Cynllun y Cyngor angen ei wella i helpu gyda chraffu a bod angen mwy o eglurhad ar gysylltu Trosolwg a Chraffu gyda meysydd risg.  Cwestiynodd yr hepgoriad o’r risg fawr gyda ffioedd a thaliadau a dywedodd y dylai meysydd risg o dan gylch gwaith pwyllgorau eraill sy’n cynnwys risgiau ariannol fod yn destun goruchwyliaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adolygiad o Gynllun y Cyngor yn ystyried pwyntiau o’r fath i gynorthwyo pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i ganolbwyntio ar feysydd penodol o fewn eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.  Dywedodd y byddai unrhyw risgiau gwasanaeth gyda gwerth ariannol mawr hefyd yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor hwn.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Jones statws coch y dangosydd perfformiad ar ganran gweithwyr sy’n gadael yn eu blwyddyn gyntaf, o ystyried sylwadau’r Prif Weithredwr nad oedd unrhyw risg i barhad busnes yn codi o’r tuedd hwn. Dywedodd y Cynghorydd Jones hefyd y dylai’r effaith ar y duedd genedlaethol o nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd absenoldeb salwch fod yn fwy clir yn y sylwebaeth. Cytunodd i rannu nifer o ymholiadau eraill ar ddangosyddion perfformiad gyda swyddogion ar wahân.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jones am ehangu ar y rhesymau dros risgiau a adroddwyd i bwyllgorau eraill, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael sylw drwy adolygu’r fframwaith rheoli risg.  Mewn ymateb i ragor o gwestiynau, roedd gweithdy Aelodau ar Werth Cymdeithasol yn cael ei drefnu a byddai’r eitem Bargen Dwf yn rhoi cyfle i Aelodau nodi blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau sy’n effeithio cymunedau. Am yr angen i gynlluniau busnes nodi amcanion a gwariant cysylltiedig o fewn meysydd gwasanaeth, siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am waith parhaus i gyflawni cynnwys mwy cyson ac adborth dwyffordd gyda Chynllun y Cyngor, a fyddai’n helpu i lywio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Wrth ddiolch i Aelodau am eu sylwadau, rhoddodd y Cynghorydd Mullin sicrwydd, tra bod cynnydd yn cael ei wneud, nid oedd hunanfoddhad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley y dylai’r adroddiad ganolbwyntio’n fwy ar dueddiadau, yn hytrach na chiplun ar gyfnod. Cytunodd i rannu nifer o anghysondebau gyda swyddogion o ran data yn yr adroddiad, o’i gymharu â’r diweddariad canol blwyddyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom y teimlai y gallai Cynllun y Cyngor gyflawni mwy drwy gynllunio ymlaen llaw, er enghraifft, gyda’r cam gweithredu ‘ymyriadau allweddol i gael gafael ar gyfleusterau cyflogaeth, iechyd, hamdden ac addysg’.  Dywedodd y dylai ymyriadau o’r fath, fel y rhai sydd eu hangen yn Nociau Mostyn, gael eu hadlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor o dan y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol.

 

Eglurodd  ...  view the full Cofnodion text for item 81