Mater - cyfarfodydd

Grass Cutting Policy Review

Cyfarfod: 15/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 28)

28 Polisi Torri Gwair pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn amlygu amlder torri gwair ar gyfer bob categori fel a ddiffinnir yn y Polisi Torri Gwair cyfredol.Gwahoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i ddarparu trosolwg am y safonau cyfredol. Dywedodd bod y Contractwyr wedi gorfod cael eu defnyddio i gynnal safonau tan ddiwedd mis Medi oherwydd bod adnoddau wedi cael eu hailgyfeirio oherwydd y llifogydd lleol dros yr haf a'r tymheredd uchel yn golygu bod y gwair yn tyfu’n gynt.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Evans faint oedd hi'n gostio i gael gwared ar wair oedd wedi cael ei dorri ar gaeau chwaraeon a chanolfannau pensiynwyr. Pwysleisiodd na ddylid gadael y gwair hwn ar ôl ei dorri ac y dylid cael gwared ohono ac y byddai hynny'n gostwng nifer y cwynion a geir.

 

                        Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffordd y byddai cynnydd o 70% yn y gost petai’r gwair yn cael ei gasglu gan y byddai angen peiriannau ac offer newydd i wneud hynny. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’n adrodd yn ôl ddiwedd Rhagfyr / Ionawr gyda’r ffigyrau.

 

                        Cytunodd y Cynghorydd Hughes gyda’r Cynghorydd Evans a dywedodd bod Leeswood yn bwriadu plannu hadau gwyllt mewn ardaloedd gwyrdd y flwyddyn nesaf fel na fyddai angen torri’r gwair.  Atgoffodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y Pwyllgor bod yr adroddiad yn argymell bod y Cynghorau Tref a Chymuned yn rhoi syniadau ymlaen i’w hystyried ar gyfer plannu blodau gwyllt i’w treialu dewis amgen er mwyn torri’r gwair yn llai aml a chael gwair hirach.

 

                        Rhannodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad luniau o enghreifftiau o lle gellid plannu blodau gwyllt a hynny am bris isel.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Bibby, rhoddwyd eglurhad am y patrwm torri gwair mewn mynwentydd.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd a’r Gwasanaeth Strydwedd am y gwaith o dorri gwair oedd wedi cael ei wneud yn Aston.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’n siarad â'r Cynghorydd Hutchinson am broblem oedd wedi codi gyda chontractwr ar ôl y cyfarfod a chytunodd i ddosbarthu gwybodaeth am y Cynllun Plannu Gwirfoddol “Ein Gardd Cefn”.

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Evans bod y penderfyniad yn cael ei ohirio er mwyn gallu ystyried adroddiad am gost gwirioneddol cael gwared ar wair mewn rhai ardaloedd fel canolfannau pensiynwyr, caeau chwarae ysgolion a mannau cymunedol.

 

                        Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adrodd yn ôl ddiwedd Rhagfyr / Ionawr am y gost. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

                        Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Evans ac eiliwyd nhw gan y Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn dymuno cael adroddiad pellach gan roi amlinelliad o gost cyflwyno gwaith casglu gwair yn y Polisi Torri Gwair.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo hyrwyddo rhaglen o blannu blodau gwyllt gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned oedd yn dymuno bod yn rhan o’r fenter.