Mater - cyfarfodydd

Asset Management Planning and the use of Asset Registers

Cyfarfod: 17/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 49)

49 Cynllunio Rheoli Asedau a'r defnydd o Gofrestrau Asedau pdf icon PDF 209 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar ddamcaniaeth cynllunio rheoli asedau a’r defnydd o gofrestrau asedau, a defnydd ymarferol y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn amlinellu’r dull cynllunio rheoli asedau a defnyddio cofrestru asedau, a defnydd y Cyngor yn ymarferol.

 

Rhoddodd drosolwg o’r prif bwyntiau o ran datblygu strategaeth asedau hirdymor i wneud y mwyaf o asedau a chysylltu ag amcanion Cynllun y Cyngor. Roedd y dull o reoli asedau, o safbwynt buddsoddi a chynnal, yn ystyried paramedrau arfer da a osodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd y gwahanol Gynlluniau Rheoli Asedau a’r strategaeth gyffredinol wedi’u dwyn ynghyd mewn Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol (CAMP) oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac a gaiff ei rannu ym mis Tachwedd. Ar 31 Mawrth 2019, gwerth cyfanswm balans ar gyfer asedau eiddo cyhoedd a thir oedd £762m; roedd y ffigur hwn yn amodol ar amodau’r farchnad oedd yn anwadal.

 

Cynigiodd Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) eglurhad ar y cyswllt rhwng cynllunio asedau a’r Rhaglen Gyfalaf i’r Datganiad o Gyfrifon lle cofnodir gwerth asedau sefydlog bob blwyddyn yn unol â gofynion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at ddogfen lle’r oedd y Cyngor wedi ymateb i arolwg yn gofyn cwestiynau am reoli asedau gan Lywodraeth Cymru (WG) ychydig flynyddoedd yn ôl. Gan gydnabod y cyngor a’r arweiniad oedd ei angen gan swyddogion, pwysleisiodd bwysigrwydd cyfraniad adeiladol gan Aelodau a gofynnodd am wybodaeth fanylach am y fframwaith rheoli asedau a’r defnydd ohono i wasanaethau rheng flaen. Wrth gyfeirio at gyfanswm gwerth asedau’r Cyngor, gofynnodd i’r Arweinydd ystyried y ddogfen y cyfeiriodd ati a lefel cyfraniad Aelodau i’r broses. Awgrymodd hefyd fod y ddogfen yn cael ei rhannu gydag Aelodau.

 

Wrth dderbyn copi o’r ddogfen, dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd yn ymwybodol ohoni. Dywedodd ei fod wedi bod yn werthfawr ei rhannu ymlaen llaw a chytunodd i roi ystyriaeth ddyledus iddi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y ddogfen a rannwyd gan y Cynghorydd Heesom.  Siaradodd am Aelodau’n cael mynediad i’r gofrestr eiddo corfforaethol, yr ystâd amaethyddol ac unedau diwydiannol a gofynnodd a oedd arolwg cyflwr wedi’i gynnal ar gyfer yr olaf. Dywedodd ei fod yn bwysig monitro asedau gwag i sicrhau cymaint o incwm â phosibl i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid mai’r cyfanswm gwerth a nodwyd oedd y ffigur net ar ôl disbrisio. Tynnodd sylw at y tabl yn yr adroddiad oedd yn dangos y sylfaen mesur ac amlder dibrisio, fel y rhagnodwyd.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, dywedodd y Rheolwr Cyllid mai gwerth stoc tai’r Cyngor oedd £203m ar 31 Mawrth 2019. Aeth ymlaen i egluro’r dull o brisio ‘gwerth defnydd presennol’ ar gyfer tai cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Heesom am yr ymgynghori ag Aelodau ynghylch dyfodol Neuadd y Sir, atebodd y Cynghorydd Roberts fod y pwnc wedi cael ei drafod gan y Cabinet ac nad oedd y dewis o alw’r penderfyniad i mewn wedi’i ddefnyddio.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y prif benderfyniadau am sylfaen asedau’r Cyngor wedi’u cymryd yn agored gan y Cabinet yn unol â’r strategaeth y cytunwyd arni i leihau nifer y safleoedd ffisegol, yn  ...  view the full Cofnodion text for item 49