Mater - cyfarfodydd

Ash Dieback Action Plan

Cyfarfod: 15/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 29)

29 Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r aelodau o ymateb arfaethedig yr Awdurdod i’r Clefyd Coed Ynn a fydd yn effeithio’n sylweddol ar boblogaeth y coed yn sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad byr i'r adroddiad yn nodi mai’r pwrpas oedd codi ymwybyddiaeth o’r broblem a oedd yn symud yn gyflymach nag a ddisgwyliwyd a sicrhau bod yr Aelodau’n ymwybodol o’r cynlluniau gweithredu.  Cyflwynodd Reolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad a eglurodd y sefyllfa'n fwy manwl.

 

Eglurodd bod gwaith monitro eleni wedi dangos ei fod bellach yn endemig ledled y sir a bod y clefyd yn debygol o gael gwared ar y rhan fwyaf o’r 24,000 o goed ynn ac y byddai hynny’n cael effaith amgylcheddol sylweddol. Roedd Sir y Fflint yn ffodus bod ganddynt Swyddog Coed penodol (yn wahanol i awdurdodau cyfagos) sydd wedi amlinellu cynlluniau i flaenoriaethu cael gwared ar goed heintiedig o ymyl ffyrdd, ysgolion a lleoliadau cyhoeddus eraill. Ychwanegodd y byddai coed heintiedig nad ydynt ar dir y Cyngor yn broblem fwy.   Dangoswyd lluniau o goed heintiedig i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod perygl ariannol ynghlwm wrth y materion a amlygwyd yn yr adroddiad felly roedd hi wedi codi hyn gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

            Soniodd y Cadeirydd am y pwysigrwydd o gyfathrebu pa mor ddyrys yw'r sefyllfa a thynnodd sylw at ansawdd yr adroddiad ac roedd o’n teimlo y dylai fod ar gael yn ehangach.

 

            Dywedodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad bod angen bod yn ofalus wrth gyfathrebu’n y modd cywir gyda'r cyhoedd i osgoi panig a bod cynllun mewn grym i reoli'r broblem. 

 

            Amlygodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y pwysau ar y gyllideb a nodwyd yn yr adroddiad.   

             

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnwys y cynllun; a

(b)       Nodi’r risgiau mewn perthynas â’r effaith posib i’r Awdurdod o ran cyllid ac iechyd a diogelwch.