Mater - cyfarfodydd

Liaison with the Council on Ethical Issues

Cyfarfod: 04/11/2019 - Pwyllgor Safonau (eitem 40)

40 Trafod gyda'r Cyngor ar Faterion Moesegol pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        I gwblhau trefniadau ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor a’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar ganlyniad penderfyniad y Pwyllgor ar 2 Medi 2019 i’r Cyngor fabwysiadu’n wirfoddol nifer o argymhellion arfer gorau a wnaed gan y ‘Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus’. Roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r argymhelliad penodol i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau gwrdd yn rheolaidd ag uwch ffigurau yn y Cyngor i roi cyfle i drafod yn anffurfiol ar raglen waith y Pwyllgor ac i godi unrhyw bryderon ynghylch gweithdrefnau, protocolau neu ymddygiad Aelodau.

 

Yn dilyn cytundeb gan Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor, trefnwyd cyfarfod rhagarweiniol gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 18 Tachwedd, gyda'r nod o gynnal cyfarfodydd dilynol bob chwe mis.

 

Nodwyd awgrym y Cynghorydd Johnson y dylid cynnal yr ail gyfarfod cyn dyddiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Heesom iddo am gynnwys Arweinwyr Gr?p, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai'r cyfarfod cyntaf gynnwys ystyriaeth ar aelodaeth y gr?p ac amlder cyfarfodydd.  Croesawyd hyn gan y Cynghorydd Heesom. Eglurodd y Swyddog Monitro hefyd na fyddai angen i'r rheini ar yr aelodaeth ddatgan cysylltiadau personol gan fod hwn yn gr?p mewnol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Croesawu cytundeb yr Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor i gyfarfodydd cyswllt bob chwe mis; a

 

 (b)      Bod y materion allweddol a nodir yn yr adroddiad yn ffurfio'r agenda ar gyfer cyfarfodydd o'r fath a'r cyfarfod cyntaf yn ystyried aelodaeth ac amlder cyfarfodydd yn y dyfodol.