Mater - cyfarfodydd

School Balances

Cyfarfod: 26/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 19)

19 Balansau Wrth Gefn Ysgol Blwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2019 pdf icon PDF 324 KB

Pwrpas:        I roi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cyfeiriodd at lefel cyffredinol cronfeydd wrth gefn ysgolion Sir y Fflint a oedd wedi cynyddu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd diffyg net ysgolion uwchradd yn gyffredinol wedi cynyddu o £0.169m (13.1%). Gosodwyd hyn yn erbyn cynnydd o £0.172m (7.2%) mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd a chynnydd o £0.057m mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion arbenigol. Roedd y dadansoddiad o’r balansau wrth gefn ar gyfer bob ysgol ar ddiwedd Mawrth 2019 ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod cyllidebau ysgolion uwchradd yn parhau i fod dan bwysau.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd gan 7 o’r 11 ysgol uwchradd yn Sir y Fflint ddiffygion o £1.879m. Roedd lefel y cronfeydd wrth gefn a gynhaliwyd gan ysgolion uwchradd gyda balansau cadarnhaol yn 1% o’r gyllideb a oedd yn amlygu pryderon yngl?n â gwydnwch ariannol y sector ysgol uwchradd yn Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Swyddog fod mesurau caledi parhaus a newidiadau i ddemograffeg yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol ac yn codi’r cwestiwn a oedd y fformiwla ariannu yn darparu adnoddau digonol i ysgolion uwchradd llai allu gweithredu’n gynaliadwy. Roedd y pwysau hyn ar gyllidebau ysgolion uwchradd i’w weld ar draws Cymru a Lloegr.

 

Wrth drafod sefyllfa ysgolion cynradd yn Sir y Fflint, dywedodd y Prif Swyddog bod balansau ysgolion cynradd wedi’u cynnal yn dda er gwaethaf pwysau caledi parhaus, fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai niferoedd disgyblion ysgolion cynradd yn gostwng ac y byddai hyn yn creu heriau ar gyfer Penaethiaid Ysgolion Cynradd wrth reoli’r gyllideb yn y dyfodol.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd 6 ysgol gynradd gyda balansau diffygiol, o gymharu â 3 ysgol gynradd yn y flwyddyn flaenorol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau’n gysylltiedig â balansau ysgolion, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd, ar y cyfan, bod gwerth y balansau dros ben yn ysgolion Sir y Fflint yn fwy na’r balansau diffygiol.  Esboniodd, yn ymarferol, bod balansau dros ben eisoes wedi’u hymrwymo gan ysgolion ar gyfer prosiectau penodol, neu ar gyfer ansicrwydd o ran cyllid a newidiadau o ran niferoedd disgyblion. Yn unol â’r Rheoliadau, roedd Cynllun Ariannu Ysgolion yr Awdurdod yn gofyn bod ysgolion yn cyflwyno cynllun gwariant yn dangos yr hyn yr oedd y corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud â balans yr ysgol a oedd yn fwy na therfynau penodol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog hefyd ar falensau diffygiol a dywedodd wrth i lefelau cyllid i ysgolion leihau oherwydd mesurau caledi a oedd yn wynebu llywodraeth leol roedd perygl y byddai mwy o ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol.Cyfeiriodd at Argymhelliad 4 yn Adroddiad Arolygu Estyn yn dilyn yr Arolwg diweddar o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod a dywedodd bod y Tîm Rheoli Portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r Tîm Cyllid Ysgolion wedi cytuno ar ystod o gamau gweithredu a fyddai’n ffurfio rhan o ymateb yr Awdurdod i  ...  view the full Cofnodion text for item 19